Gwinoedd cartref: Creu 'moddion' o ffrwythau a dŵr

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Moyra Blakeman Ffynhonnell y llun, Moyra Blakeman

Mwyar duon, persli, sinsir, tatws... gallwch chi wneud gwin allan o bron unrhywbeth (bron).

Mae Moyra Blakeman, o bentref Dryslwyn yn Sir Gâr, wedi bod yn gwneud gwinoedd cartref ers dros ugain mlynedd, ac er ei bod hi wedi perffeithio'r grefft erbyn hyn, roedd hi wedi cael ychydig o drafferth ar y dechrau, meddai...

"Dwi'n cofio rhywun yn dweud wrtha i, pan ti'n gwneud gwin, anghofia amdano fe am sawl blwyddyn, a bydd y gwin llawer gwell. Un o'r troeon cyntaf, o'n i mor gyffrous; gwnes i roi'r gwin mewn poteli, a'i roi yn y sied tu fas ac anghofio amdano fe, nes bo' fi'n mynd mewn i'r sied rhyw ddiwrnod, ac roedd cyrc dros y lle.

"O'n i wedi rhoi'r gwin yn y poteli yn rhy ifanc, roedd y gwin i gyd wedi popio, a o'n i wedi colli'r batch cynta!"

Doedd yr ail gynnig ddim llawer gwell, pan aeth gwybed i mewn a gwneud pi-pi yn y gwin gan ei droi yn sur! Ond doedd hi ddim am adael i hyn ei stopio.

"Wrth i'r pethau hyn ddigwydd, ti'n newid y broses a dysgu. Fi wedi cael proses sy'n siwtio fi, a dwi wedi bod yn lwcus iawn ers hynny."

Proses

Mae Moyra yn gwneud mwy nag un math o win gwahanol bob blwyddyn, gan gadw rhai ohonyn nhw am flynyddoedd, er mwyn cael y gorau ohonyn nhw, meddai ar raglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru.

"Mae rhai gwinoedd yn gwella os ti'n cadw fe'n hirach, a rhai eraill, ti'n well yn eu hyfed yn ifanc. Os wyt ti'n gwneud gwin persli, mae hwnna'n mynd yn glir yn gyflym; byddet ti'n yfed hwnnw o fewn y flwyddyn neu ddau.

"Ar gyfer gwin mwyar neu ffrwyth arall, byddet ti'n yfed hwnna mewn tair neu bedair blynedd. Bydde fe ddim rhy gryf; yn ysgafn a gyda blas y ffrwyth."

Gwinoedd Moyra Blakeman Ffynhonnell y llun, Moyra Blakeman
Disgrifiad o’r llun,

Mae Moyra yn cadw rhai gwinoedd am flynyddoedd nes eu bod yn barod

Moddion mewn maro

Pam dechrau gwneud gwin yn y lle cyntaf?

Mae Moyra yn cofio ei bod hi'n arfer cael gwin blodau ysgawen roedd ei mam-gu wedi ei wneud pan roedd ganddi annwyd. Heddiw, mae hi ei hun yn cario'r traddodiad ymlaen drwy wneud moddion sydd yn dda ar gyfer dolur gwddw, drwy ddull diddorol, gan ddefnyddio maro yn lle potel:

"Ti'n torri'r top i ffwrdd, fel ei fod e'n sefyll, tynnu'r hadau i gyd mas, a'i bacio fe i gyd gyda siwgr brown a bach o zest oren. Wedyn adio bach o sinsir, cloves a phethau sy'n dda i annwyd, bach o sudd oren a burum a'i dywallt i'r maro, rhoi'r clawr nôl a'i tapio rownd y top.

"Dwi'n ei roi mewn bwced bach, ac mae'r maro yn pydru ac yn drewi. Unwaith mae hwnna'n dechrau diferu drwyddo, ti'n rhoi hwnna mewn potel. Mewn tri mis, alli di yfed hwnna.

"Mae blas yr oren gyda ti, a blas y pethau sy'n dda at annwyd – ac ambell i beth cyfrinachol dwi'n ei roi hefyd! Mae e'n dew ac yn leinio'r gwddw - mae e'n gweithio!"

Arbrofi

Yn ei sied, mae degau o winoedd gwahanol, ac mae Moyra wrth ei bodd yn arbrofi gyda chynhwysion gwahanol, yn dibynnu ar y tymor.

"Amser ti mas yn cefn gwlad, ti'n cerdded rownd y perthi, a digon o flodau ysgawen a mwyar a phethe fel 'ny o gwmpas... mae'r ffrwyth am ddim i ti!

"Fi wedi neud gwin sinsir, sydd yn rili'n neis. Ges i ormod o datws rhyw flwyddyn, a nes i win mas o datws. Mae hwnna dal yn neis, ac ar gyfer special occasions – mae hwnna'n para'."

Ac mae hi wrth ei bodd yn rhannu ei diddordeb a'i gwinoedd gydag eraill hefyd.

"Mae'n anrheg neis i bobl. Amser ti'n rhoi anrheg i rywun, a ti sydd wedi ei 'neud dy hunan, mae e werth mwy na rhywbeth ti wedi ei brynu.

"Mae'n broses diddorol dros ben. Mae'n anhygoel pan ti'n meddwl be' ti'n ei 'neud mas o ddŵr a ffrwythau."

Geirfa

mwyar duon / blackberries

persli / parsley

sinsir / ginger

perffeithio / to perfect

crefft / craft

trafferth / trouble

cyrc / corks

gwybed / gnats

sur / sour

proses / process

byddet / you would

blodau ysgawen / elderflower

annwyd / a cold

traddodiad / tradition

moddion / medicine

dolur gwddw / sore throat

dull / method

maro / marrow

clawr / cover/lid

pydru / to rot

drewi / to smell

diferu / to seep

cyfrinachol / secret

tew / thick

cynhwysion / ingredients

dibynnu / depending

tymor / season

anrheg / gift

anhygoel / amazing