Gwaith atgyweirio 'brys' yn amharu ar wasanaethau trenau

Tren mewn gorsaf Ffynhonnell y llun, GWR
  • Cyhoeddwyd

Mae nifer o newidiadau i wasanaethau trenau de Cymru ddydd Sul am fod angen "gwaith atgyweirio brys" ar bont.

Mae'r gwaith atgyweirio ger gorsaf drên Caerdydd Canolog wedi effeithio ar nifer o wasanaethau Great Western Railway, Transport for Wales a CrossCountry, yn ôl National Rail.

Mae 'na drafnidiaeth amgen yn cael ei drefnu rhwng Casnewydd a Chaerdydd Canolog.

"Mae disgwyl i'r gwaith barhau i amharu ar wasanaethau trenau nes diwedd y dydd," meddai National Rail.

Pa wasanaethau sydd wedi eu heffeithio?

Dywedodd National Rail bod y gwaith atgyweirio yn amharu ar wasanaethau:

  • CrossCountry rhwng Nottingham / Birmingham New Street / Bryste Temple Meads a Chaerdydd Canolog

  • Great Western Railway rhwng Bryste Temple Meads a Chaerdydd Canolog, a hefyd rhwng Bryste Parkway ac Abertawe

  • Trafnidiaeth Cymru rhwng Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd / Glyn Ebwy / Pontypridd / Merthyr Tudful / Aberdâr / Treherbert, a rhwng Ynys y Barri a Chaerffili, a rhwng Penarth a gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd

Pynciau cysylltiedig