Heddlu'n ymchwilio i farwolaeth babi 11 wythnos oed

- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaeth babi 11 wythnos oed yn Rhondda Cynon Taf.
Dywedodd y llu eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad yn Nhonypandy fore Llun.
"Mae ymchwiliadau i'r farwolaeth yn parhau ac fe fyddwch yn gweld mwy o bresenoldeb yr heddlu yn yr ardal," meddai llefarydd.
Ychwanegodd fod teulu'r plentyn wedi gofyn am breifatrwydd.