Teulu Cymraes sy'n y ddalfa yn yr UDA yn galw am ei rhyddhau

Cyrhaeddodd Becky Burke yr Unol Daleithiau ar 7 Ionawr
- Cyhoeddwyd
Mae teulu Cymraes sy'n cael ei chadw mewn canolfan fewnfudo yn yr Unol Daleithiau yn dweud eu bod nhw "wir eisiau" iddi gael caniatâd i hedfan adref.
Cyrhaeddodd Becky Burke, 28 o Sir Fynwy, Efrog Newydd ar 7 Ionawr i ddechrau teithiau cerdded ar draws gogledd America, oedd i fod i bara pedwar mis.
Mae ei theulu'n dweud ei bod hi bellach wedi treulio 13 diwrnod fel rhywun "anghyfreithlon" mewn canolfan ICE yn Washington, sy'n prosesu mewnfudwyr.
Dywedodd ei thad bod yr amodau yno'n "erchyll", a'i fod yn amau bod yr awdurdodau yn credu bod ei ferch wedi torri rheolau ei fisa am ei bod yn aros gyda theuluoedd ac yn "helpu o amgylch y tŷ" yn gyfnewid am lety.
Dywedodd Customs and Border Protection (CBP) yn yr Unol Daleithiau bod "pryderon preifatrwydd" yn eu rhwystro rhag medru gwneud sylw ar achosion penodol.
Ond maent wedi dweud mewn sefyllfa lle mae unigolyn wedi cael ei wrthod rhag cael mynediad i'r UDA, y "byddai'r CBP yn cynnig cyfle i'r unigolyn drio cael yr hawl i deithio adref i'w wlad gartref ef neu hi".
Mae'r Department of Homeland Security yn yr Unol Daleithiau wedi cael cais am sylw.
Mae'r Swyddfa Dramor yn "cefnogi dinesydd Prydeinig" yn yr Unol Daleithiau, ac "mewn cysylltiad gyda'r awdurdodau lleol", meddai llefarydd.

Roedd Becky Burke yn bwriadu cerdded yng ngogledd America am bedwar mis
Roedd Becky Burke, sy'n arlunydd, wedi hedfan o Efrog Newydd i Portland, Oregon, cyn mynd ymlaen i Seattle, Washington ddiwedd Chwefror.
Roedd hi wedi bod yn aros gyda gwahanol deuluoedd, gan helpu o gwmpas y tŷ yn gyfnewid am y llety.
Ei bwriad oedd mynd draw i Vancouver yn Canada, ond pan gyrhaeddodd hi'r ffin, cafodd ei rhwystro rhag cael mynediad i Canada, gyda'r awdurdodau yn dweud eu bod yn poeni y gallai ddechrau gweithio yn anghyfreithlon.

Andrea a Paul Burke, rhieni Becky
Dywedodd ei thad, Paul Burke, bod y gwasanaethau wedi camddeall ei threfniadau llety, ac nad oedd ganddi unrhyw fwriad i weithio yno.
Yn ôl Mr Burke cafodd ei ferch wybod fod cael lle i aros yn gyfnewid am wneud gwaith o amgylch y tŷ "yn cael ei ystyried fel gwaith".
"Roedd y bobl yng Nghanada yn garedig yn ôl pob sôn," meddai.
"Ond dywedon nhw y byddai'n rhaid iddi fynd yn ôl i'r Unol Daleithiau er mwyn cwblhau mwy o waith papur.
"Felly cafodd ei hebrwng yn ôl dros y ffordd i'r UDA, ac fe gafodd ei harestio... ac yna treuliodd hi bum awr mewn cell."
Dywedodd ei bod wedi cael ei rhoi mewn cyffion a'i chludo i'r ganolfan ICE yn Tacoma, Washington.
"Mae'n anghredadwy," meddai Mr Burke. "Mae hi'n ddinesydd Prydeinig.
"Mae ganddi visa teithiwr - mae hi wedi ymchwilio yn ofalus iawn."

Mae Becky Burke yn cael ei chaniatáu i wneud ymarfer corff am awr y dydd
Mae Ms Burke yn cael ei chaniatáu i wneud ymarfer corff am awr y dydd, ac mae ei holl eiddo wedi cael ei gymryd oddi arni.
"Ar y dechrau roedd hi'n torri ei chalon," meddai ei thad.
"Mae hi'n cael ein ffonio ni gydag iPad sy'n cael ei rannu, ond dydyn ni ddim yn cael ei ffonio hi.
"Mae hi'n gorfod prynu hanfodion o siop sydd yno ddwywaith yr wythnos.
"Rydyn ni wedi treulio oriau yn ceisio rhoi pres yn ei chyfrif carcharor, a sylwi ar y diwedd nad yw hynny'n bosib am nad ydyn ni'n Americanwyr.
"Felly, mi wnaethon ni ofyn i ffrindiau Americanaidd ein helpu."
UDA 'yn dal twristiaid'
Ychwanegodd Mr Burke "Rydyn ni gyd yn gwybod bod Arlywydd newydd - Trump.
"Rydyn ni'n gwybod eu bod yn mynd yn fwy llym o ran mewnfudo, ond maen nhw'n dal twristiaid hefyd nawr."
"Mae hi'n codi ei dwylo ac yn dweud 'plîs deportiwch fi'. Mae hi eisiau cael ei gyrru adref yn wirfoddol.
"'Nawn ni dalu iddi hedfan, ond mae pethau wedi bod yn llethol o dawel."

Mae rhieni Becky Burke eisiau gwybod beth yw'r camau nesaf er mwyn ei chael hi adref
Esboniodd Mr Burke eu bod wedi clywed bod "y person sy'n gyfrifol am ei hachos wedi mynd ar ei wyliau".
"Mae gennych chi ddynes ifanc, fregus, Prydeinig, sydd wedi cael ei gadael yno tra bod swyddog ei hachos wedi mynd ar ei wyliau.
"Rydyn ni eisiau gwybod beth ydy'r camau nesaf. Dywedodd rhywun wrthon ni bod deportio gwirfoddol yn gorfod cael ei gymeradwyo gan farnwr.
"Ond dydyn ni ddim yn gwybod sut i wneud hynny.
"Mae rhai o'r merched yn y gwersyll yno ers degau o wythnosau, misoedd - rhai ers blynyddoedd."
'Sioc a chywilydd'
Mae rhieni Ms Burke wedi bod mewn cyswllt gyda'r Aelod Seneddol dros Sir Fynwy, sydd wedi codi'r achos gyda'r Ysgrifennydd Tramor David Lammy.
Maen nhw hefyd mewn cyswllt gyda'r conswl Prydeinig yn San Francisco - yr un agosaf i'r ganolfan yn Washington.
Ychwanegodd Mr Burke bod eu ffrindiau Americanaidd mewn "sioc" ac â "chywilydd" am y sefyllfa.
"Mae'n ymddangos fel achos gwallgof ac anghredadwy."
Dywedodd llefarydd ar ran Customs and Border Protection (CBP) yr Unol Daleithiau: "Mae pryderon preifatrwydd yn rhwystro U.S. Customs and Border Protection rhag medru gwneud sylw ar achosion penodol."
Ychwanegodd bod pawb sy'n cyrraedd yr UDA yn destun arolwg, a bod swyddogion CBP yn "trin teithwyr hefo parch, proffesiynoldeb ac yn unol â'r gyfraith".
Dywedodd bod yr asiantaeth yn prosesu dros filiwn o deithwyr sy'n cyrraedd yr UDA pob 24 awr.
"Mewn sefyllfa lle mae unigolyn wedi cael ei wrthod rhag cael mynediad i'r UDA, bydd CBP yn cynnig cyfle i'r unigolyn drio cael yr hawl i deithio adref i'w wlad gartref ef neu hi."