Cefnogwr yn dysgu Cymraeg i Glwb Pêl-droed Wrecsam
- Cyhoeddwyd
“Dwi wedi gwireddu breuddwyd os dwi’n onest, cael swydd fel tiwtor Cymraeg yn Y Cae Ras. O’n i methu coelio i gychwyn, dwi’n cefnogi Wrescam ar hyd fy oes.”
Dyna eiriau Huw Birkhead am ei waith yn dysgu Cymraeg i staff Clwb Pêl-droed Wrecsam ers mis Medi.
O fod yn diwtor iaith i staff y siop, i werthwyr tocynnau, i reolwr tîm y merched a’r chwaraewyr, gobaith Huw yw rhoi gwers flasu i dîm y dynion dros yr haf.
Swydd ddelfrydol
Er ei fod wedi cychwyn ar y gwaith y tymor diwethaf, mae Clwb Pêl-droed Wrecsam, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Choleg Cambria newydd gyhoeddi eu partneriaeth sy’n galluogi i Huw weithio’n llawn amser fel tiwtor i’r clwb.
Yn ôl Huw, arferai freuddwydio am gael chwarae pêl-droed i dîm Wrecsam pan oedd yn blentyn.
“Dwi heb cweit gyrraedd y pwynt yna ond mae’r swydd yma bron cystal,” meddai.
Dydy o ddim yn chwaraewr ar y Cae Ras ond mae’r cyn-athro a’r cefnogwr brwd yn teimlo ei fod yn ei “swydd ddelfrydol”.
“Roedd gan fy nhad, fy mrawd a finna’ docyn tymor pan oedden ni’n ifanc, oedden ni’n trio mynd bob wythnos i’r gemau.
“’Dan ni ’di cefnogi Wrecsam drwy’r holl siomedigaethau ac uchafbwyntiau dros y blynyddoedd.
“Dwi yma’n y clwb, dwi’n gwisgo’r cit, a dwi’n teimlo’n lwcus iawn ’mod i’n gallu bod yma’n hybu’r iaith Gymraeg. O’n i’n athro ysgol gynradd felly dwi'n mwynhau dysgu, ac yn mwynhau hybu’r iaith Gymraeg.”
'Nod Steve Dale yw cyfweliad Cymraeg ar Sgorio'
Dros y misoedd diwethaf mae Huw wedi bod yn rhoi gwersi Cymraeg i dîm y merched gan gynnwys eu rheolwr, Steve Dale.
Meddai Huw: “Dwi’n rhoi gwersi un i un i reolwr tîm y merched, mae o’n gwneud yn dda iawn. Mae ganddo fo’r nod o wneud cyfweliad ar raglen Sgorio yn Gymraeg y tymor nesa.”
Ond beth am dîm y dynion?
“’Dan ni’n gweithio’n ara' dêg tuag atyn nhw. Dwi’n gwybod bo’ nhw yn brysur iawn, ’dan ni ’di ’neud ambell i beth bach...
“Ar ddiwrnod Santes Dwynwen oedd rhai o’r dynion wedi dod draw a gwneud clip fidio bach jest yn dweud rhywbeth oedden nhw yn caru, a trio ’chydig o Gymraeg.
“Dwi’n gobeithio dros yr haf y byddwn ni’n cael rhyw wers flasu byr efo’r tîm felly dwi’n meddwl ’dan ni’n gweithio’n ara deg i roi blas.
“Os oes yna rywun sydd isio cael gwersi go iawn yn fwy na rhywbeth blasu, mi gawn nhw gysylltu a wnawn ni sortio.”
Yn ôl Huw mae pob dydd yn amrywiol a bydd yn teilwra’r gwersi i anghenion swyddi staff y clwb.
“Pan dwi’n gweld y tîm cyfryngau dwi’n trio teilwra’r gwersi iddyn nhw fel bo’ nhw’n gallu defnyddio dipyn o’r Gymraeg mewn negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol neu dwi’n dysgu y criw o’r siop, neu'r staff manwerthu.
“Ar eu cyfer nhw dwi’n trio creu gwersi lle maen nhw’n gallu cyfarch y bobl sy’n dod i’r siop, ella cael sgwrs byr a deall prisiau.”
Bellach, pan fydd Huw yn mynd i siop y clwb bob bore bydd y staff yno’n ei gyfarch yn Gymraeg, ac mae wrth ei fodd yn eu clywed nhw’n sgwrsio â’i gilydd yn Gymraeg.
“Mae’r ymateb wedi bod yn wych,” meddai. “Dwi methu cwyno o gwbl.”
'Balchder o amgylch yr iaith'
Dydi Huw heb gyfarfod perchnogion y clwb, sef dau o sêr Hollywood, Rob McElhenney a Ryan Reynolds, hyd yma. Ond mae’n grediniol fod effaith eu hymrwymiad i’r Gymraeg a’u defnydd o’r iaith ar y rhaglen ddogfen Welcome to Wrexham yn cael effaith gadarnhaol ar berthynas yr iaith gyda’r clwb a’r cefnogwyr.
“Mae Welcome to Wrexham ac agwedd Rob a Ryan wedi cael effaith enfawr. Hyd yn oed yma efo’r staff, maen nhw’n falch o weithio mewn clwb lle mae ’na iaith arall.
“Dwi’n meddwl fod o ’di creu mwy o falchder o amgylch yr iaith.
“Dwi’n gwybod bod lot o Loegr yn dod i weithio yma. Maen nhw’n trio dysgu ychydig o’r iaith a defnyddio fo lle maen nhw’n gallu.
“Mae ymrwymiad y perchnogion i draddodiadau Cymru a’r iaith yn cael effaith wych o amgylch y lle; yn y clwb ac yng nghymuned Clwb Pêl-droed Wrecsam.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth
- Cyhoeddwyd13 Mai
- Cyhoeddwyd26 Ebrill