Rhybudd i drigolion wedi digwyddiad cemegol yn Y Barri
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De a'r Gwasanaeth Tân yn rhybuddio trigolion yn Ninas Powys, Penarth a Sili (Sully) i gau eu drysau a ffenestri wedi "gollyngiad cemegol" yn ffatri Dow yn Y Barri gerllaw.
Mae'r ffatri a arferai gael ei hadnabod fel ffatri Dow Corning yn cynhyrchu silicon.
Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn delio â'r digwyddiad ond dywedodd llefarydd ar ran cwmni Dow yn hwyr brynhawn Sadwrn bod "y sefyllfa o dan reolaeth a bod Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi gadael y safle".
Ychwanegodd llefarydd y bydd y cwmni yn ymchwilio i'r digwyddiad fel nad yw'n digwydd eto.
Dywed yr heddlu eu bod yn annog trigolion i gau drysau a ffenestri er mwyn sicrhau eu diogelwch ac maen nhw'n diolch i bobl am eu hamynedd.
Mae'r ffatri wedi bod yn cynhyrchu silicon ers 1952 ac mae oddeutu 630 o bobl yn gweithio yno.