Rhybudd melyn am stormydd brynhawn Sadwrn

Rhybudd tywyddFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Daw'r rhybudd melyn i rym am 13:00 brynhawn Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl glaw trwm ar hyd rhannau helaeth o'r wlad brynhawn Sadwrn, gyda mellt a tharanau hefyd yn bosib mewn mannau.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd o daranau sy'n dod i rym am 13:00 ddydd Sadwrn, ac yn dod i ben am 20:00.

Mae'r rhybudd yn berthnasol i 16 o siroedd Cymru - Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Mae arbenigwyr yn dweud y gallai rhwng 20-30mm o law ddisgyn ar draws ardal y rhybudd, ac y gallai hyd at 40-50mm ddisgyn mewn rhai mannau.

Fe allai'r tywydd garw arwain at lifogydd a thrafferthion i deithwyr yn ogystal ag effeithio ar gyflenwadau trydan.

Pynciau cysylltiedig