Ymchwilio i AS yn sgil rhifau cerbyd gwahanol

Rhianon PassmoreFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhianon Passmore wedi cael ei hatal o'r blaid yn weinyddol yn sgil yr honiadau

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Blaid Lafur wedi atal un o'i haelodau yn Senedd Cymru o'r blaid yn weinyddol, tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i honiadau am ei gweithredoedd.

Daw'r penderfyniad wedi i wefan Guido Fawkes honni fod AS Islwyn, Rhianon Passmore, wedi ei gweld yn gyrru car gyda dau rif gwahanol arno.

Dywed y blaid eu bod yn cymryd honiadau am ymddygiad ei haelodau etholedig o ddifri, ac y bydd yn dilyn y drefn gywir wrth ymchwilio.

Dywedodd Heddlu De Cymru nad ydyn nhw wedi nodi unrhyw drosedd. Mae Ms Passmore wedi cael cais am ymateb.

Yn ôl Guido Fawkes, fe gafodd Ms Passmore ei "gweld yn gyrru o faes parcio Senedd Cymru gyda'i phlât cofrestru yn hongian, ac yr oedd un gwahanol i'w weld oddi tano".

Dywedodd llefarydd ar ran ei phlaid: "Mae'r Blaid Lafur yn cymryd ymddygiad ein holl gynrychiolwyr etholedig yn wirioneddol o ddifri ac mae pob cwyn yn cael eu hymchwilio yn unol â gweithdrefn cwynion y blaid."

Dywedodd yr heddlu mewn datganiad: "Mae'n ymddangos fel bod y tâp gludiog oedd yn cael ei ddefnyddio i ddal rhif y car yn ddiffygiol, ac o ganlyniad fe ddisgynnodd y rhif o'r cerbyd.

"Mae'r car yn parhau ar dir preifat, ac o ganlyniad i hynny, nid oes unrhyw drosedd wedi ei nodi.

"Mae perchennog y car yn ymwybodol o'r mater."

Mae Ms Passmore wedi cynrychioli Islwyn ym Mae Caerdydd ers 2016.

Golyga ei gwaharddiad bod Lafur Cymru nawr â llai na hanner y seddi yn y Senedd - 29 o'r 60.

Gwaharddiad blaenorol

Yn 2018, yn nyddiau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fe gafodd Ms Passmore ei gwahardd o'r siambr am bythefnos am fethu â rhoi prawf anadlu.

Cafodd ei gwahardd rhag gyrru gan ynadon Casnewydd ar 12 Chwefror 2018, ar ôl cyfaddef methu â rhoi sampl.

Cafodd argymhelliad pwyllgor safonau'r Cynulliad i'w gwahardd am 14 diwrnod ei dderbyn heb wrthwynebiad yn y siambr.

Fe ymddiheurodd ar y pryd, gan grybwyll "brwydrau personol yr wyf wedi cael trafferth eu rheoli".

Dywedodd Ms Passmore ei bod wedi ceisio gyrru o Gaerdydd i gartref ei mam ar ôl yfed tri gwydraid o win y diwrnod y cafodd ei harestio.

Dywedodd hefyd ei bod wedi cael pwl o asthma ac wedi cymryd dos uchel o'r feddyginiaeth prednisone.

Roedd ei char wedi torri i lawr yn ardal Llaneirwg Caerdydd a thra ei bod yn aros am gymorth fe gyrhaeddodd yr heddlu a gofyn am sampl anadl.

Yn ôl adroddiad pwyllgor safonau, roedd wedi ceisio - a methu - gwneud y prawf ddwywaith.

Dywedodd Ms Passmore ar y pryd nad oedd wedi methu gwneud y prawf yn fwriadol a'i bod o dan bwysau ar ôl methu â defnyddio'i meddyginiaeth asthma yn gywir.

Pynciau cysylltiedig