Rhybudd melyn am law trwm i'r de ddydd Iau

Porthcawl/rhybuddFfynhonnell y llun, Getty Images/Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer 14 o siroedd de Cymru ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae rhybudd am law trwm mewn grym ar gyfer y de a'r gorllewin ddydd Iau.

Bydd y rhybudd melyn yn weithredol o hanner nos, nos Fercher, tan 18:00 nos Iau.

Mae mewn grym ar gyfer 14 o siroedd de Cymru - Abertawe, Sir Benfro, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gâr, Sir Fynwy, Merthyr Tudful, Pen-y-bont, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai hyd at 40mm o law ddisgyn mewn rhai mannau, ond fod tua 20mm yn fwy tebygol ar draws mwyafrif yr ardal dan sylw.

Maen nhw'n rhybuddio y bydd gwyntoedd cryfion o hyd at 50mya ar yr arfordir hefyd.

Pynciau cysylltiedig