Dreigiau Caerdydd i fod yn rhan o gynghrair bêl-rwyd newydd

y Capten Nia JonesFfynhonnell y llun, Harry Trump
Disgrifiad o’r llun,

Capten y Dreigiau eleni yw Nia Jones

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd tîm pêl-rwyd Dreigiau Caerdydd yn rhan o gynghrair newydd yr NSL (Netball Super League) a fydd yn cael ei lansio yn 2025.

Fe fydd wyth o dimau yn y gynghrair newydd yn hytrach na'r 10 sydd yn y gynghrair bresennol.

Mae'r dewis o'r wyth terfynol wedi bod yn ddadleuol gan nad oes lle i dîm Caerfaddon, sydd wedi bod yn bencampwyr bum gwaith.

Nod y gynghrair newydd yn bod yn gwbl broffesiynol.

Yr wyth tîm fydd yn yr NSL newydd yw:

  • Birmingham Panthers

  • Dreigiau Caerdydd

  • Leeds Rhinos

  • London Mavericks

  • London Pulse

  • Loughborough Lightning

  • Manchester Thunder

  • Nottingham Forest Netball

Mae'r Birmingham Panthers a Nottingham Forest Netball yn dimau newydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn ôl penaethiaid y gynghrair newydd, fe gafodd timau eu dewis ar sail "eu gallu i gyflawni gwelliannau ar, ac oddi ar y cwrt" er mwyn "codi safonau'r gynghrair".

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr yr NSL, Claire Nelson, y byddai cyflogau chwaraewyr yn cynyddu'n raddol.

Ond mae cynlluniau ar gyfer ail-lansio'r gynghrair yn cynnwys cynyddu'r cyflog cyfartalog o o leiaf 60%, gyda'r isafswm cyflog yn mwy na dyblu.

Pêl-rwyd yw'r gamp mwyaf poblogaidd i ferched ymysg gemau tîm yn Lloegr, gyda mwy na 3m yn chwarae'n flynyddol.

Manteisio ar hynny yw nod prif weithredwr Netball England, Fran Connolly.

Dywedodd: "Dyma'r adeg iawn a'r peth iawn i wneud er mwyn dyfodol y gamp er mwy cryfhau pob agwedd o'r gamp ac ysbrydoli cenedlaethau i ddod."

Nod yr NSL yw y bydd pob gêm ar gael i'w gwylio ar deledu, ac y bydd hanner y gemau'n cael eu chwarae mewn stadiymau mawr diolch i arian gan fuddsoddwyr.

Mae'r tymor presennol - yr olaf o dan y drefn ar hyn o bryd - wedi bod yn rhedeg ers Chwefror a bydd y rownd derfynol ar 29 Mehefin.

Pynciau cysylltiedig