Caernarfon: Pryder dros restr cyflenwyr cyffuriau honedig

Caernarfon
  • Cyhoeddwyd

Mae trigolion Caernarfon wedi dweud eu bod nhw'n poeni am densiynau yn y gymuned, wedi i restr o gyflenwyr cyffuriau honedig yn yr ardal, a rhai sy'n honedig yn darparu gwybodaeth i'r heddlu, ymddangos mewn negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol.

Ddydd Mercher, cafodd dwy rhestr o enwau eu rhannu gyda Newyddion S4C – un yn enwi cyflenwyr cyffuriau honedig yng ngogledd orllewin Cymru, a'r llall yn enwi pobl sy'n honedig yn rhannu gwybodaeth gyda'r heddlu yn ardal Caernarfon.

Mae'r ddwy restr wedi eu rhannu'n helaeth ar gyfryngau cymdeithasol.

Yn ôl Heddlu'r Gogledd, maen nhw'n ymwybodol o negeseuon "all fod wedi achosi pryder o fewn y gymuned". Maen nhw'n dweud eu bod nhw'n gweithio "i reoli'r effaith ar drigolion".

Graffiti
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr heddlu bod dyn wedi'i arestio mewn cysylltiad â graffiti yn y dref

Fe ymddangosodd graffiti ar waliau'r dref yn sgil y negeseuon. Mae dyn wedi ei arestio mewn cyswllt â hynny ac wedi ei ryddhau ar fechniaeth.

Nawr, mae rhai yn yr ardal yn dweud eu bod nhw'n poeni am ddial posib.

Yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville-Roberts, sy'n cynrychioli'r ardal yn San Steffan, mae digwyddiadau'r dyddiau diwethaf "wedi bod yn sioc fawr".

"Dwi'n gwybod fod hon yn sefyllfa fyw, felly hyn a hyn fedrwn ni ei ddweud. Dwi'n gwneud fy ngorau glas i gael fy niweddaru gan yr heddlu.

"Mae'n sioc i feddwl bod hyn yn digwydd yn un o'n cymunedau ni… Cymuned Gymreig fel Caernarfon."

"Dwi'n rhannu'r pryderon, ac yn erfyn ac yn pwyso ar yr heddlu i wneud yn siwr bod nhw'n cymryd pob cam sydd angen, yn dilyn y profiadau 'da ni wedi eu cael yn y ddau ddiwrnod diwethaf."

Heddlu'n 'rheoli'r effaith ar drigolion'

Y cynghorydd Cai Larsen sy'n cynrychioli canol tref Caernarfon ar Gyngor Gwynedd.

Gan gyfeirio at y graffiti yn y dref, fe ddywedodd fod hwn, yn bersonol ac o ran y gymuned ehangach, "yn fater o ofid sylweddol… fod hyn wedi gallu digwydd".

"Hynny yw, mae o'n resyn fod hyn wedi gallu digwydd yng nghanol tref Caernarfon."

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn ymwybodol o negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol sydd wedi eu rhannu yn y dyddiau diwethaf, all fod wedi peri pryder o fewn y gymuned.

"Rydym ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid lleol i reoli'r effaith ar drigolion lleol.

"Rydym ni hefyd wedi derbyn adroddiadau o graffiti ynghanol y dref, a gallwn gadarnahu fod dyn wedi ei arestio yn gysylltiedig â hyn. Mae o bellach wedi ei ryhddau ar fechniaeth wrth i'n hymchwiliad barhau.

"Roedd 'na swyddogion yn ardal Pendalar Caernarfon ddoe, lle cafodd tri dyn eu harestio mewn digwyddiad arall sydd ddim yn gysylltiedig."

"Dylai unrhywun ag unrhyw bryderon neu wybodaeth yr hoffen nhw ei rannu, gysylltu â ni drwy sgwrs fyw ar ein gwefan, neu drwy alwad ffôn anhysbys i CrimeStoppers ar 0800 555 111."

Pynciau cysylltiedig