Ehangu cynllun 'arloesol' i gyflymu achosion mewn llysoedd teulu

Dau blentyn ifanc yn cerdded gyda'u cefnau i'r camera, ac un â'i fraich o amgylch ysgwyddau'r llallFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae cynllun "arloesol" i geisio lleihau'r oedi a chefnogi dioddefwyr trais yn y cartref mewn llysoedd teulu yn mynd i gael ei ehangu trwy Gymru.

Ar ôl bod ar waith yn y gogledd a'r de-ddwyrain, fe fydd y cynllun 'Pathfinder' yn cael ei gyflwyno yng ngweddill y wlad o fis Mawrth.

Yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae'r cynllun wedi arwain at gwblhau achosion yn gynt, a haneru nifer yr achosion sy'n disgwyl cael eu clywed.

Fe fydd £12.5m ychwanegol ar gael gan Lywodraeth y DU i ehangu'r cynllun i Gymru gyfan, ac i ran o ogledd Lloegr.

Mae'n ceisio datrys problemau rhwng rhieni yn gynt, a rhoi mwy o bwyslais ar glywed llais plant yn gynharach yn y broses.

Gwahaniaeth 'anhygoel'

Yn ôl y gyfreithwraig teulu, Elizabeth Saxby, mae'r gwahaniaeth yn "anhygoel" o'i gymharu â'r hen drefn.

Mae rhieni'n troi at lysoedd teulu ar ôl gwahanu, os nad ydyn nhw'n gallu cytuno ar drefniadau gofal.

Gall penderfyniad barnwr mewn llys teulu gael effaith sylweddol, gan benderfynu pryd mae plant yn gweld rhiant, ble maen nhw'n byw, a ble maen nhw'n mynd i'r ysgol.

Cyfreithwraig teulu Elizabeth Saxby o gwmni Melyn Legal yng Nghaerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gyfreithwraig teulu, Elizabeth Saxby, yn gweld bod yna wahaniaeth mawr yn sgil y drefn newydd

Daeth adolygiad o'r system cyfiawnder teuluol yn 2020 i'r casgliad bod yr hyn sy'n digwydd mewn llys teulu yn gallu gwaethygu'r gwrthdaro rhwng rhieni, a chael effaith negyddol ar blant.

Cafodd cynllun Pathfinder ei sefydlu yng ngogledd Cymru a Dorset yn ne Lloegr yn 2022.

Yn ôl ystadegau gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae'r amser mae'n cymryd i fynd ag achos trwy'r system wedi lleihau o 29 wythnos ar gyfartaledd i 18 wythnos yn y gogledd.

Dechreuodd yn ne-ddwyrain Cymru a Birmingham ym mis Mai 2024, ac fe fydd ar waith ledled Cymru o fis Mawrth 2025, ac yng ngorllewin Sir Efrog o fis Mehefin.

Cymru fydd y wlad gyntaf i ddefnyddio'r drefn hon ym mhob achos mewn llys teulu.

'Gwegian dan bwysau'

Yn ôl yr elusen Cymorth i Ferched, y gobaith yw bydd y drefn newydd yn hwyluso'r broses i ddioddefwyr

"Mae 'na rai yn teimlo dydyn nhw ddim eisiau mynd trwy hyn," meddai Ann Williams,

"Mae'n nhw'n teimlo eu bod yn gwegian dan bwysau, ond iddyn nhw wybod rŵan bod 'na help ar gael - mae hwnna yn rhywbeth pwysig ofnadwy i ni fel mudiad."

Ann Williams o'r elusen Cymorth i Ferched
Disgrifiad o’r llun,

Ann Williams o'r elusen Cymorth i Ferched

Sut mae cynllun Pathfinder yn wahanol?

O dan y drefn flaenorol, gallai rhieni ddisgwyl gorfod aros wythnosau, neu hyd yn oed misoedd, cyn cael eu cyswllt cyntaf gyda'r llys teulu, neu gyda'r gwasanaeth cynghori CAFCASS Cymru

Byddai achosion fel arfer yn cymryd chwech mis neu fwy i'w cwblhau, ac yn cynnwys nifer o wrandawiadau llys gwahanol

O dan y cynllun Pathfinder, o fewn diwrnod neu ddau o gyflwyno'r cais i'r llys, mae barnwr neu gynghorydd cyfreithiol yn ystyried y cais ac yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â sut i fwrw ymlaen â'r achos

Fel arfer, mae'r barnwr yn gofyn i swyddog gyda CAFCASS Cymru baratoi adroddiad ar yr effaith ar y plentyn, fyddai'n cynnwys siarad gyda'r ddau riant, ac o bosib y plentyn ei hun, ac unrhyw un arall perthnasol fel ysgol y plentyn.

Mae'r swyddog yn tynnu sylw at unrhyw anghytundeb rhwng y ddwy ochr, cyn cyflwyno argymhellion i'r llys.

Mae hwn yn golygu bod barnwyr yn gallu cael rhagor o wybodaeth cyn gwneud penderfyniadau ynglŷn â'r achos, a hynny dipyn cynt nag o dan yr hen drefn.

Tad yn cydio yn llaw merch wrth iddyn nhw gerdded ar stryd, gyda'u cefnau i'r cameraFfynhonnell y llun, Getty Images

Yn ei gwaith fel cyfreithwraig teulu yng Nghaerdydd, mae Elizbaeth Saxby wedi bod yn delio ag achosion o dan y system newydd ers iddo ddechrau yn y de-ddwyrain fis ebrill 2024.

"Os mae rhieni dim ond yn dadlau dros drefn yr wythnosau, a does dim ystyriadau diogelwch dros y plant, mae e lot yn fwy cyflym," meddai

"Mae CAFCASS yn siarad 'da'r rhieni, yn trio gweld beth yw'r problemau, yn siarad 'da'r plant yn gynnar hefyd.

"Mae hwnna lot yn well fel bo nhw'n cael siawns i ddweud beth yw beth yn gynnar, a wedyn erbyn iddyn nhw fynd i'r llys mae'r barnwr yn rhoi real pwyslais ar y rhieni i drio cytuno, cyn bo nhw'n cael trefniadau wedi'u gorfodi arnyn nhw."

Gwella llysoedd teulu yn 'flaenoriaeth'

Dywedodd y Comisiynydd Trais yn y Cartref i Gymru a Lloegr, Nicole Jacobs, bod gwella llysoedd teulu yn "flaenoriaeth".

"Mae'n glir i fi bod llysoedd Pathfinder yn cydnabod effaith trais yn y cartref ac yn ystyried anghenion y plant dipyn cynt nag yn y llysoedd teulu traddodiadol."

Gyda'r system yn ehangu i Gymru gyfan o fis Mawrth, mae Elizbaeth Saxby yn dweud bod y gwahaniaeth gyda'r hyn sy'n digwydd o hyd mewn sawl ardal dros y ffin yn amlwg.

"Mae 'da fi faterion nawr lle ni o dan y system newydd yng Nghymru, a mae clients 'da fi sydd o dan yr hen system yn Lloegr, a mae'r gwahaniaeth yn anghygoel, so dwi'n rili falch bo ni'n gwthio fe mlaen."

Pynciau cysylltiedig