Menyw wedi marw yn dilyn tân mewn fflat ym Mhontcanna

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad tua 18:15 nos Sul
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio ar ôl i fenyw farw mewn tân yn ardal Pontcanna, Caerdydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad mewn fflat ar Ffordd Conway tua 18:15 nos Sul.
Dywedodd Heddlu'r De mewn datganiad "nad yw'n ymddangos fod unrhyw amgylchiadau amheus ar hyn o bryd".
Mae teulu'r fenyw fu farw wedi cael gwybod am y diweddaraf.