Cyhuddo dyn, 33, o lofruddio dynes yn Abertawe

Leanne WilliamsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 33 oed wedi'i gyhuddo o lofruddio Leanne Williams yn Abertawe ddiwedd Chwefror.

Mae disgwyl i Matthew Battenbough ymddangos gerbron Llys Ynadon Abertawe ddydd Mercher.

Cafodd plismyn o hyd i Ms Williams, 47, yn ei chartref ar Ffordd Gomer yn Townhill am oddeutu 14:00 ddydd Iau 27 Chwefror.

Nododd archwiliad post mortem bod anafiadau sylweddol i'w chorff.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Mark O'Shea: "Rydym yn dal i olrhain symudiadau diwethaf Leanne o 18:00 ddydd Llun, 24 Chwefror hyd at 14:20 ddydd Iau pan ddaeth swyddogion o hyd iddi.

"Gofynnir i unrhyw un sy'n byw neu sydd wedi teithio ar hyd Ffordd Gomer neu'r ardaloedd cyfagos yn ystod y cyfnod hwn wirio eu camerâu cylch cyfyng neu gamera dashfwrdd am unrhyw wybodaeth a allai fod yn berthnasol.

"Nid oes ots pa mor ddi-nod y gall y wybodaeth ymddangos. Rydym am glywed yn arbennig gan bobl a oedd yn adnabod Leanne ac nad ydynt wedi siarad â swyddogion eto."

Yn y cyfamser mae dyn 41 oed a gafodd ei arestio fel rhan o'r ymchwiliad wedi ei ryddhau.