Angen rhai gwelliannau brys wedi arolygiad mamolaeth Ysbyty Gwynedd

Mynedfa Ysbyty Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae arolygwyr yn dweud bod teuluoedd yn cael eu trin â charedigrwydd a pharch ar Ward Llifon, ond bod pryderon am ddiogelwch

  • Cyhoeddwyd

Mae yna "feysydd allweddol y mae angen rhoi sylw iddynt ar frys er mwyn sicrhau gofal diogel ac effeithiol", yn ôl arolygiad dirybudd o wasanaethau mamolaeth Ysbyty Gwynedd.

Fe wnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, dolen allanol gynnal arolygiad dros dri diwrnod yn olynol ym mis Chwefror 2025, gan edrych ar ansawdd a diogelwch y gofal a oedd yn cael ei ddarparu ar Ward Llifon, sy'n arbenigo mewn gofal cyn-enedigol ac ôl-enedigol.

Mae eu hadroddiad yn nodi bod "teuluoedd yn cael eu trin â charedigrwydd a pharch, a bod gofal yn cael ei ddarparu mewn amgylchedd, glân, pwyllog a chroesawgar".

Ond mae hefyd yn dweud bod "pryderon am ddiogelwch cleifion" wedi cael eu codi yn ystod yr arolygiad.

Dywedodd y bwrdd iechyd bod gwelliannau wedi eu gwneud, gan groesawu bod yr adroddiad yn "cydnabod ymroddiad ein staff".

Mae'r adroddiad yn nodi sawl pryder penodol:

  • Gwendidau yn arferion trosglwyddo meddygol a chyfathrebu'r staff, gydag arolygwyr yn dweud, oni bai bod hyn yn gwella, y gallai gyfaddawdu gallu'r staff i wneud penderfyniadau diogel am ofal, yn enwedig i ferched yn ystod y cyfnod esgor;

  • Cydymffurfiaeth isel â hyfforddiant gorfodol ymysg y staff obstetrig, a dim sicrwydd bod gan bob aelod perthnasol o staff yr wybodaeth a'r sgiliau diweddaraf i ddarparu gofal diogel;

  • Pryder bod newidiadau diweddar i arweinyddiaeth bydwreigiaeth wedi golygu bod yr uwch-aelodau o staff yn llai gweladwy yn yr uned.

Mae'n dweud hefyd bod angen parhau i ganolbwyntio ar recriwtio a chadw er mwyn mynd i'r afael â bylchau staffio a chefnogi gofal diogel o ansawdd uchel.

'Ymroddiad a phroffesiynoldeb staff'

Er gwaetha'r heriau, nododd yr arolygiad bod yna dystiolaeth bod y staff yn gweithio'n galed i ddarparu gofal caredig ac urddasol o dan bwysau.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

"Mae'r arolygiad hwn yn tynnu sylw at ymroddiad a phroffesiynoldeb y staff wrth ddarparu gofal urddasol sy'n canolbwyntio ar y claf.

"Mae hefyd yn nodi meysydd y mae angen eu gwella ar unwaith ac yn barhaus.

"Rydym yn annog y bwrdd iechyd i weithredu'n ddi-oed, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r bwrdd i sicrhau cynnydd."

Dywedodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Nyrsio a Bydwreigiaeth Betsi Cadwaladr, bod y bwrdd yn croesawu'r adroddiad, ac yn falch ei fod yn "cydnabod ymroddiad ein staff wrth drin menywod gyda charedigrwydd a pharch".

Ychwanegodd: "Mae canfyddiadau'r arolygiaeth yn werthfawr ac yn rhoi cyfle i ni wneud gwelliannau pellach.

"Cafodd cynllun gwella ei weithredu mewn ymateb i'r canfyddiadau ac rydyn ni ar y trywydd iawn i gwblhau'r nodau sy'n weddill erbyn diwedd Gorffennaf."