Bachgen 5 oed wedi'i ganfod mewn pwll nofio yng Ngroeg - cwest

Theo Treharne-JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd mam Theo Treharne-Jones nad oedd yn synhwyro perygl

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed bod bachgen pump oed o Gymru wedi marw ar wyliau teulu yng Ngroeg ar ôl cael ei ganfod mewn pwll nofio.

Cafodd Theo Treharne-Jones o Ferthyr Tudful ei ganfod mewn pwll nofio gwesty ar ynys Kos ar 15 Mehefin 2019.

Dywedodd ei fam, Nina Treharne, wrth Lys Crwner Pontypridd mai "dim ond bachgen bach hyfryd" oedd ei mab.

Roedd wedi cael diagnosis o Syndrom Smith-Magenis gan ddangos "ymddygiadau awtistig", ac nid oedd yn gallu "synhwyro perygl" meddai.

Ynys KosFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ynys Kos yn boblogaidd gyda thwristiaid o Brydain

Roedden y teulu ar wyliau yn Atlantica Holiday Village yn Kos, lle roedden nhw wedi aros naw mis ynghynt.

Dywedodd Ms Treharne wrth y crwner cynorthwyol, Gavin Knox, fod yr ystafelloedd yn wahanol i'r rhai roedden nhw wedi aros ynddyn nhw o'r blaen.

"Doedd dim clo cadwyn ar y drws" meddai, felly gosododd bramiau ei dau fab a chês dillad yn erbyn y drws "rhag ofn".

Aeth y teulu i'r gwely ar ôl swper ar y noson cyn i Theo gael ei ganfod, a chael eu deffro gan weiddi yn y bore.

"Roedden ni'n cysgu'n drwm," meddai Ms Treharne gan ychwanegu: "Roedd 'na guro ac roedd rhywun yn gweiddi: 'mae plentyn yn y pwll, mae plentyn yn y pwll,' roedd fel deffro i hunllef."

'Roedd ganddo wên heintus'

Dywedodd tad Theo, Richard Jones, wrth y gwrandawiad bod ei fab yn "blentyn prydferth" a oedd â chwerthin a gwên heintus.

Esboniodd ei fod wedi rhedeg i lawr at ardal y pwll "gan ddisgwyl gweld Theo yn eistedd wrth ochr y pwll", ond yn lle hynny, daeth o hyd i rywun yn gwneud CPR ar ei fab.

Dywedodd ei fod wedi cael "sioc" o weld bod y CPR yn cael ei wneud ar wely haul i ddechrau cyn i Theo gael ei symud i'r llawr, lle parhaodd cyn i'r ambiwlans gyrraedd.

Cafodd datganiad ei ddarllen yn y llys gan Stuart Zammitto-Nicholl a oedd yn aros yn y gwesty ar y pryd, a ddaeth o hyd i Theo wyneb i lawr yn y dŵr.

"Fe godais i e allan o'r dŵr a'i osod i lawr er mwyn dechrau gwneud CPR," meddai, gan ychwanegu: "Roeddwn i'n gwneud CPR am bum munud, ond roedd yn teimlo fel oes."

Fe wnaeth Owen Samson, oedd yn aros yn y gwesty hefyd, roi tystiolaeth drwy gyswllt fideo o Gaerwysg.

Dywedodd ei fod yn paratoi i fynychu priodas pan welodd Theo yn gwthio bygi yn agos at y pwll.

Roedd yn cerdded mewn symudiad "ffigwr 8" meddai, a dywedodd bod Theo "yn chwerthin yn ddi-baid," ac felly ni feddyliodd fawr ddim mwy am y digwyddiad.

Llys Crwner Pontypridd
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y cwest ym Mhontypridd bod Theo yn y dŵr am rhwng dau a phum munud

Cafodd datganiad ei ddarllen yn y llys gan Tracey Wheedon, a oedd yn pacio ei chês er mwyn hedfan adref i'r DU, pan glywodd pobl yn sgrechian.

Fe ddechreuodd wneud CPR ar Theo am tua phum munud tra bod eraill yn chwilio am ddiffibriliwr.

Pan gafwyd hyd i un, roedd y cyfarwyddiadau mewn Groegaidd ac roedd angen i aelod o staff eu cyfieithu, meddai.

Ychwanegodd fod criw'r ambiwlans wedi cyrraedd heb stretsier a bod yn rhaid i dad Theo ei gario.

Dywedodd Adam Holmes, sy'n berchen ar fusnes hyfforddi cymorth cyntaf, a oedd hefyd yn aros yn y gwesty ar y pryd, fod CPR wedi dechrau cyn iddo gyrraedd.

Pan gyrhaeddodd ochr y pwll dywedodd ei fod wedi rhoi cyngor y dylen nhw symud pen Theo er mwyn ceisio agor ei lwybr anadlu.

Dywedodd iddo roi cywasgiadau ar y frest ond nad oedd "arwyddion o anadlu" ac roedd yn bryderus ynghylch pa mor hir roedd yn cymryd i'r diffibriliwr gyrraedd.

Rhedodd Mr Holmes i'r dderbynfa i ofyn am y diffibriliwr cyn sylweddoli nad oedd yn y gwesty ond mewn meddygfa gerllaw. Rhedodd i'r feddygfa i'w gasglu.

Gofynnodd y crwner cynorthwyol Gavin Knox i Mr Holmes, os nad oedd wedi rhedeg i gasglu'r diffibriliwr a fyddai unrhyw un arall wedi mynd i'w nôl?

"Doedd e ddim yn ymddangos felly, na," meddai.

Er bod cyfarwyddiadau'r peiriant mewn Groegaidd, dywedodd Mr Holmes, gan fod y peiriannau'n awtomatig, ei fod yn gyfarwydd â sut i'w gweithredu.

Ychwanegodd fod y diffibriliwr wedi mynd trwy dair cylchred heb roi sioc.

Aeth Mr Holmes gyda Theo a'i dad i'r ysbyty yn yr ambiwlans gan barhau i wneud cywasgiadau ar y frest tra bod Mr Jones yn defnyddio falf bag a mwgwd i wthio ocsigen i ysgyfaint Theo.

'Hyfforddiant nac offer digonol'

Wrth roi tystiolaeth fe ddywedodd ymgynghorydd ym maes anesthesia a gofal cyn-ysbyty, Dr Patrick Morgan, "na fyddai wedi gwneud gwahaniaeth pe bai'r diffibriliwr yno ai peidio".

Dywedodd ei fod "yn debygol bod Theo wedi bod yn y dŵr rhwng dau a phum munud".

Ychwanegodd ei bod hi'n debygol y byddai bod dan y dŵr am gyhyd wedi bod yn "ddigon i fod yn angheuol".

Esboniodd fod cofnodion tywydd hanesyddol yn awgrymu y byddai tymheredd y dŵr wedi bod tua 20.6 gradd ar y diwrnod y bu farw Theo.

Pan ofynnwyd i Dr Morgan a fyddai'r canlyniad wedi bod yn wahanol pe bai'r ambiwlans wedi cyrraedd yn gynt dywedodd:

"Byddai wedi ei gael [Theo] i'r ysbyty yn gynt," ond doedd hyfforddiant nac offer yr ymatebwyr "yn ddigonol".

Pe bai criw ambiwlans o ddau berson wedi bod yn y fan a'r lle cyn gynted ag y cafodd Theo ei achub o'r dŵr, lle roedd "o leiaf un [aelod o'r criw] wedi cael lefel uchel o hyfforddiant, gyda'r offer cywir a'r ymyriadau cywir" efallai y byddai wedi goroesi, meddai.

Esboniodd y crwner Mr Knox wrth y gwrandawiad y bydd y cwest yn edrych ar sut y llwyddodd Theo fynd o ystafell westy'r teulu i'r pwll.

Bydd yn ymchwilio i ddiogelwch a goruchwyliaeth y pwll a'r wybodaeth ddiogelwch a oedd ar gael yn y gwesty.

Ychwanegodd Mr Knox ei fod hefyd am edrych ar ba mor addas ydy mecanwaith cloi ystafelloedd y gwesty, a'r wybodaeth oedd ar gael am sut roedden nhw'n gweithio.

Libby Jones o TUI
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Libby Jones o TUI roi tystiolaeth i'r cwest

Cafodd archwiliad o'r gwesty ei gynnal ar 14 Mehefin 2019, diwrnod cyn marwolaeth Theo.

Dywedodd Rheolwr Cyffredinol Iechyd a Diogelwch Tramor yn TUI, Libby Jones, fod yr archwiliad wedi tynnu sylw at ddau fater: un am ddiffyg marciau clir ar y grisiau i lawr i'r pwll ac un arall oedd yn ymwneud ag ysgol.

Dywedodd wrth y cwest nad oedd un o'r materion yn cael eu hystyried yn rhai "difrifol".

Gofynnodd Mr Knox i Ms Jones am eu canllawiau ynghylch cloeon drysau a'u mesurau diogelwch.

Dywedodd Ms Jones bod rhoi cadwyn clo ar bob drws yn ormod o risg pe bai tân.

"Dylai bob amser fod yn hawdd agor drysau o'r tu mewn er mwyn cael mynediad i ystafelloedd a fflatiau" meddai.

Cafodd adroddiad gan y patholegydd Groegaidd a gynhaliodd yr archwiliad post-mortem i'r cwest.

Penderfynwyd mai achos clinigol y farwolaeth oedd boddi.

Mae disgwyl i'r cwest bara am dri diwrnod.

Pynciau cysylltiedig