Morgannwg yn trechu Sussex yn y T20 yn Hove
![Colin Ingram](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/896/cpsprodpb/79e3/live/d56972f0-02e8-11ee-aea1-a7a447c09889.jpg)
Sgoriodd Colin Ingram 48 o rediadau oddi ar 32 pêl i Forgannwg
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth dechrau addawol Morgannwg i'r gystadleuaeth 20 pelawd barhau gyda buddugoliaeth dros Sussex yn Hove brynhawn Sul.
Llwyddodd Morgannwg i gyrraedd sgôr gwych o 219-5 yn eu 20 pelawd nhw, gyda Chris Cooke (50) a Colin Ingram (48) yn serennu.
Dim ond cyfanswm o 187-8 lwyddodd Sussex i gyrraedd yn eu hymateb nhw, er gwaethaf ymdrechion Tom Alsop (58) a Michael Burgess (45).
Enillodd y Cymry felly o 32 o rediadau.
Mae Morgannwg bellach wedi chwarae pum gêm yn y gystadleuaeth, gan ennill pedair a cholli un.