Yr Eisteddfod yn 'agoriad llygad' i bobl ifanc Wrecsam

croeso wrecsam
  • Cyhoeddwyd

Gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i Wrecsam am y tro cyntaf ers 2011, mae 'na gyffro mawr ymysg pobl ifanc yr ardal.

Ysgol Morgan Llwyd yw'r unig ysgol uwchradd Gymraeg yn y ddinas, ac mae nifer o'r disgyblion wedi bod wrthi'n brysur yn codi arian ac yn paratoi at yr ŵyl.

Dywedodd un disgybl fod yr eisteddfod yn mynd i fod yn "agoriad llygad" i bobl ifanc yr ardal.

Mae disgyblion hefyd yn awyddus i weld yr Eisteddfod yn cael effaith ar y Gymraeg yn y ddinas.

'Dewch os chi'n siarad Cymraeg neu ddim'

Mae Carys, disgybl ym mlwyddyn 8 yn Ysgol Morgan Llwyd, yn awyddus i weld nifer o ddysgwyr a phobl di-Gymraeg yn dod i'r maes.

Dywedodd ei bod yn gobeithio bydd clywed y Gymraeg yn "annog rhieni i roi eu plant yn y ffrwd Gymraeg".

"Dewch, os y;cg chi'n siarad Cymraeg neu ddim, 'da ni wedi gweithio'n galed iawn, a ni'n gobeithio y daw pobl i'n gweld ni!"

Mae Carys wedi ei dewis i fod yn rhan o ddawns y blodau eleni, ac mae'n edrych ymlaen at berfformio yn y pafiliwn.

Dywedodd ei fod yn gyfle da: "Mae'n hwyl, dwi 'di neud pethau perfformio o'r blaen, ond mae hwn yn chill, mae'r bobl yn neis ac mae'r ffrogiau yn neis!"

A hithau ddim fel arfer yn mynychu'r eisteddfod yn flynyddol, dywedodd ei bod yn "llawn cyffro, mae am fod yn gyfle anhygoel".

Mae hefyd yn rhan o sioe Y Stand, profiad arall "cyffrous iawn" iddi.

Anna Lyn a Carys Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anna Lyn (chwith) a Carys (dde) yn edrych ymlaen yn fawr at yr wythnos

Mae Anna Lyn ym mlwyddyn 7 yn Ysgol Morgan Llwyd ac yn edrych ymlaen yn arw at yr Eisteddfod.

Dywedodd ei bod "ond fel arfer yn mynd [i'r Eisteddfod] os yw e'n ddigon agos, am y dydd, neu os dwi'n cystadlu.

"Mae gen i dipyn o bethau dwi'n edrych ymlaen at weld, y ffair, cael freebies yn y stondinau a jyst clywed pobl yn siarad Cymraeg."

Aeth yn ei blaen i ddweud bod yr Eisteddfod yn "bwysig oherwydd ti'n gallu clywed pobl yn siarad Cymraeg" gan ychwanegu ei bod yn gobeithio bydd hynny yn hwb i bobl leol ddysgu'r iaith".

Ei neges yw: "Dewch i Wrecsam!

"Dwi'n edrych ymlaen at gymryd rhan gyda chôr yr ysgol. Ma' hwnna yn rhywbeth ti mond yn cael gwneud weithiau."

Owain a Rhys Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys (chwith) ac Owain (dde) wedi bod wrthi yn codi arian ar gyfer yr Eisteddfod

Mae Owain a Rhys o flwyddyn 9 hefyd yn edrych ymlaen at yr wythnos fawr, wedi misoedd o waith codi arian.

Mae Owain o'r farn bydd yr Eisteddfod yn "agoriad llygad i'r plant, achos dy'n nhw ddim yn gwybod be 'di Steddfod - dim jyst cystadlu 'de, mae 'na fwy iddo fo."

Ychwanegodd ei fod am gael cyfle i chwarae yng Nghaffi Maes B yn ystod yr wythnos.

"Dwi wedi cymryd Cerdd fel pwnc TGAU a 'da ni wedi cael slot yn caffi Maes B, felly 'da ni wedi bod yn dysgu caneuon efo Morgan Elwy a brawd fo."

Dywedodd y byddai'n ymweld â'r eisteddfod bob dydd!.

Ychwanegodd Rhys eu bod wedi bod yn gwneud twmpath i godi arian yn ddiweddar a chynnal diwrnodau di-wisg yn yr ysgol.

"Dwi am fynd un neu ddau o'r diwrnodau dwi'n meddwl, a dwi'n edrych ymlaen at y bwyd yna."

Ychwanegodd fod gweld yr Eisteddfod yn ei filltir sgwâr "yn dda i'r iaith Gymraeg yn yr ardal".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.