Hywel Gwynfryn: Uchafbwyntiau fy ngyrfa o'r archif ddarlledu

Hywel GwynfrynFfynhonnell y llun, Hywel Gwynfryn
  • Cyhoeddwyd

"Mae diogelu hanes darlledu yng Nghymru yn hanfodol — mae'n adrodd hanes pwy ydan ni ac o ble rydan ni wedi dod."

Dechreuodd y cyflwynydd Hywel Gwynfryn ei yrfa ddarlledu yn y 1960au ac, ar ôl mwy na 60 mlynedd o gyflwyno rhaglenni radio a theledu, mae'n wyneb ac yn lais amlwg yn archif ddarlledu Cymru.

Gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn sefydlu Cornel Clip newydd yn Llangefni ar 11 Medi, fydd yn cynnig mynediad cyhoeddus am ddim i gasgliad cyfoethog o hanes darlledu Cymru, bu Hywel yn hel atgofion am ei yrfa gyda Cymru Fyw.

'Moment gyntaf go iawn efo seren go iawn'

 Hywel Gwynfryn a Muhammad Ali (Cassius Clay)
Disgrifiad o’r llun,

Hywel Gwynfryn a Muhammad Ali (Cassius Clay)

Roedd cyfarfod Cassius Clay yn uchafbwynt. Roeddwn i wedi cael fy anfon i Lundain i'r Cafe Royale ar ddiwedd y 1960au pan oedd o'n paratoi ar gyfer ei ffeit yn erbyn Henry Cooper. Yn Llundain roedd gweddw Caradog Pritchard, sef Mati Wyn, yn trefnu straeon i ni ar gyfer rhaglen Heddiw, sef y peth cynta' wnes i ar y teledu.

Felly dyma fi'n mynd i lawr i Lundain gyda dyn camera i'w gyfarfod o a'i reolwr Angelo Dundee.

Roedd y ciw i'w gyfarfod yn anferthol gyda chylchgronau'r byd yno.

Y noson gynt roeddwn i wedi penderfynu rhoi rhywbeth iddo fo, sef casgliad o gerddi Syr Thomas Parry-Williams, gan fod o'n hoffi odli llinellau. Mi ddoth fy amser i a mewn a fi gyda'r llyfr bach yn fy llaw.

Roedd o'n eistedd yn y gornel yn edrych fel brenin yn ei gwt codi. Oedd o'n edrych arna i efo'i ben ar un ochr. Dywedodd o ddim llawer a daeth y foment i gyflwyno'r llyfr iddo fo.

Meddai fi: 'I'd like to present you with this book to wish you the best on behalf of the Welsh nation.'

Mi afaelodd yn y llyfr ac mi wnes i ddal y llyfr yn dynn er mwyn tynnu llun.

Dywedais i wrtho mai Syr Thomas Parry-Williams oedd 'the greatest living poet'. Ateb Ali oedd 'I know the guy' – am fod o'n bencampwr y byd yn ei faes ei hun wrth gwrs.

A dyna fo. Dyna fy moment gyntaf go iawn efo seren go iawn.

'Sut ddiawl dwi'n dod oddi ar y beic yma?'

Disgrifiad,

Hywel ar y beic

Un o'r ffilmiau cynharaf wnes i oedd ar gyfer Heddiw gyda Owen Edwards yn gyflwynydd. Y syniad oedd fod Owen yn gyflwynydd 'strêt' a finne fel y clown yn llys y brenin!

Dwi ar gefn beic penny farthing yn mynd i lawr Oxford Street. A dwi'n siarad ar yr un pryd ond tra dwi'n siarad i'r camera dwi'n dweud wrth fy hun, sut ddiawl dwi'n dod oddi ar y beic yma?

Beth ddigwyddodd oedd 'nes i weld o gornel fy llygaid polyn lamp a dyna sut wnes i stopio...

'O'n i'n sgwennu caneuon pop'

Hywel Gwynfryn yn perfformio ar Hob Y Deri Dando
Disgrifiad o’r llun,

Hywel Gwynfryn yn perfformio ar Hob Y Deri Dando

Mi oedd Hob y Deri Dando yn rhaglen bop gyntaf ar y radio ac oedd o ymlaen yng nghanol y 1960au.

Y syniad oedd bod 'na raglen bop fel Top of the Pops ond ychydig iawn o ganeuon Cymraeg oedd ar gael bryd hynny. O'n i'n un o'r tîm yn cyfieithu caneuon pop i'r Gymraeg. Ruth Price oedd y cynhyrchydd ac mi oedd hi wedi clywed y gân Amazing Grace a gofynnodd i fi gyfieithu hi.

Ble i ddechrau?!

Ar ôl cyfieithu ychydig o'n i ddim yn gallu mynd dim pellach ac aeth hi'n stop arna'i.

Dywedais i wrth Ruth, 'dwi wedi trio fy ngorau a fedra'i ddim'.

Dywedodd hi 'paid a phoeni, dwi wedi ffeindio rhywun i neud y geiriau Cymraeg'. Roeddwn i'n gweld fi'n colli gwaith. 'Pwy ydy o?' meddai fi.

William Williams Pantycelyn oedd yr ateb – a dyna pam mae'r geiriau Pererin Wyf sydd ar Amazing Grace yn Gymraeg.

'Y daith i Fiji'

Disgrifiad,

Hywel yn bwyta crwban

Mi wnes i ymuno efo'r rhaglen blant Bilidowcar ac roedd cyfleoedd i fynd i ffilmio dramor. Dyna lle sy'n cynrychioli'r holl deithiau tramor ydy'r daith i Fiji.

Hogyn bach o Langefni yn cerdded ar hyd y traeth yn Fiji.

Yn un o'r rhaglenni dwi wedi bod allan yn hela gyda dynion ifanc y pentref agosaf ac wedi bod yn mynd i'r môr i chwilio am grwbanod y môr. Oeddan nhw yn mynd â nhw yn ôl i'r pentref ac yn coginio nhw gan ddefnyddio'r gragen fel powlen fawr a thynnu'r cig gwyn allan a rhoi o mewn dail banana a ffrwythau ar ei ben o.

'Oedd o fel siswrn yn cau am fy mraich i...'

Roedd y diweddar Marged Esli yn cyd-gyflwyno'r rhaglen Bilidowcar efo fi.

Roedd sioe anifeiliaid ac roedd anifeiliaid o sw Penscynor yn dod mewn i'r stiwdio. Un noson cawsom ni Pedr y Pelican i mewn.

Ar y diwedd dyma ni'n dweud nos da. Dyma fi'n dweud nos da ac yna Marged yn dweud nos da. Ac yna dyma fi'n dweud 'Nos da gan Pedr y Pelican' a phwyntio fy mraich ato. A dyma fo'n fy mrathu ar yr awyr.

Mi wnes i neidio i fyny ac wrth gwrs oedd Marged yn ei dyblau.

Oedd o fel siswrn yn cau am fy mraich i...

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig