Carcharu dynes o Sir Gâr fu ar ffo rhag yr heddlu

Mae Lynne Leyson wedi cael ei dedfrydu i naw mlynedd yn y carchar
- Cyhoeddwyd
Mae dynes oedd ar ffo rhag yr heddlu am 16 mis wedi cael ei chanfod a bellach wedi dechrau ar ei chyfnod yn y carchar.
Cafodd Lynne Leyson, oedd wedi ei chael yn euog o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau yn Sir Gaerfyrddin, ei harestio ar Fferm Pibwr, Capel Dewi ddydd Llun.
Roedd wedi dychwelyd i’r ardal nos Sul, ar ôl teithio'n helaeth ar draws y Deyrnas Unedig yn ystod ei chyfnod ar ffo.
Fe ymddangosodd Leyson yn Llys y Goron Abertawe fore Mawrth ac mae hi erbyn hyn wedi dechrau ar ei dedfryd o naw mlynedd o garchar.
Mae disgwyl y bydd Leyson yn mynd o flaen Llys y Goron Abertawe unwaith eto ar 4 Hydref.
Yn ogystal, cafodd dynes arall 26 oed ei harestio ddydd Llun ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Mae hi wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau yn parhau.

Cafodd gwerth tua £70,000 o gocên a chanabis ei ddarganfod ar fferm wledig yn ardal Capel Dewi ym mis Hydref 2021
Roedd yr heddlu wedi bod yn chwilio am Lynne Leyson ers iddi ddiflannu yn haf 2023.
Roedd ymdrech chwilio sylweddol wedi bod ar waith, gan gynnwys apêl ar raglen Crimewatch.
Ym mis Mai 2023, cafwyd Leyson yn euog o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a B, a bod ag eiddo troseddol yn ei meddiant.
Ni wnaeth ymddangos yn ei gwrandawiad dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ar 21 Gorffennaf 2023, ac fe gafodd ei dedfrydu yn ei habsenoldeb ar 15 Medi 2023 i naw mlynedd yn y carchar.

Cafodd Samson Leyson ei ddedfrydu i chwe blynedd o garchar, a'i dad Stephen Leyson i 11 mlynedd dan glo
Roedd Leyson yn un o chwech o bobl a gafodd eu harestio yn dilyn cyrch ar Fferm Pibwr yng Nghapel Dewi ger Caerfyrddin ym mis Hydref 2021.
Fe ddaeth swyddogion o hyd i 592 gram o gocên gyda gwerth rhwng £47,760 a £60,200.
Yn ogystal, daethant o hyd i 1.4kg o ganabis gwerth £15,615, £17,190 mewn arian parod a gwn.
Ym mis Gorffennaf 2023, fe gafwyd gŵr Lynne Leyson, Stephen Leyson, 55, yn euog o fod â gwn yn ei feddiant, cynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a chynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth B.
Cafodd ei ddedfrydu i 11 mlynedd o garchar.
Cafwyd eu mab, Samson, 24, yn euog o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a chyffuriau dosbarth B, ac fe gafodd ei ddedfrydu i chwe blynedd o garchar.
Cafodd dau arall - Andrew Jenkins a Ritchie Coleman - eu dyfarnu’n euog o gyflenwi cyffuriau a’u dedfrydu i gyfnod dan glo hefyd.

Cafwyd Stephen Leyson yn euog o fod â gwn yn ei feddiant
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Rhys Jones, a arweiniodd yr ymchwiliad: "Mae'r arestio yn dangos pa mor benderfynol ydym ni i ddod o hyd i'r rhai sy'n credu y gallant osgoi cyfiawnder."
Fe ddiolchodd i’r swyddogion am eu dyfalbarhad gyda’r achos, ac i aelodau’r cyhoedd am eu cymorth a’u gwybodaeth dros yr 16 mis diwethaf.
"Bydd hyn yn anfon neges gref na fydd gweithgareddau'r unigolion hynny sy'n gysylltiedig â grwpiau troseddau cyfundrefnol sy'n gweithredu o fewn ardal Dyfed-Powys yn cael eu goddef, ac y byddan nhw'n cael eu dwyn o flaen eu gwell," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2023