Ysgol Dyffryn Aman: Merch, 14, yn euog o geisio llofruddio

Liz Hopkin a Fiona Elias
Disgrifiad o’r llun,

Yn eu tystiolaeth i'r llys, dywedodd Liz Hopkin a Fiona Elias eu bod yn meddwl eu bod ar fin marw wrth i'r ferch eu trywanu

  • Cyhoeddwyd

Mae merch 14 oed wedi ei chael yn euog o geisio llofruddio dwy athrawes a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman.

Cafodd Liz Hopkin, Fiona Elias a disgybl eu trywanu yn ystod amser egwyl yn yr ysgol yn Rhydaman ar 24 Ebrill 2024.

Roedd y ferch, na allwn ei henwi am resymau cyfreithiol, yn cyfaddef iddi drywanu'r tair, ond yn gwadu tri chyhuddiad o geisio llofruddio.

Roedd hi'n ddi-emosiwn wrth i'r rheithgor gyhoeddi'r dyfarniadau, ac mae disgwyl iddi gael ei dedfrydu cyn diwedd Ebrill.

Dywedodd y barnwr, Paul Thomas KC, bod yr achos wedi bod yn un "anodd ac anarferol".

Disgrifiad,

Cafodd y fideo CCTV yma o'r digwyddiad ei ddangos i'r llys

Daeth y dyfarniadau ar ddiwedd achos a barodd am ychydig dros wythnos, ac fe gymrodd y rheithgor dros bedair awr i ystyried y dystiolaeth.

Bu'n rhaid cynnal yr achos o'r newydd fis Ionawr wedi i'r un cyntaf ddymchwel ym mis Hydref oherwydd "anghysondeb mawr" yn y rheithgor.

Wrth grynhoi'r achos yn gynharach ddydd Llun, dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyn bod dim digon o dystiolaeth i brofi bod y ferch wedi bwriadu lladd y tri dioddefwr, serch unrhyw "sioc, syndod neu arswyd" y gallai'r rheithgor fod wedi eu teimlo wrth glywed y dystiolaeth.

Ychwanegodd Caroline Rees KC bod gan y diffynnydd, oedd yn 13 oed ar y pryd, "gefndir o unigedd a hunan-niwedio", a'i bod yn "ffaith drist iawn bod y ferch wedi dod i'r arfer o gario arf i'r ysgol bob dydd" am ei bod yn ofni cael ei bwlio.

Ond roedd yr erlyniad yn dadlau bod yr ymosodiadau "yn fwriadol ac wedi eu hailadrodd", ac y gallai'r anaf i wddf Liz Hopkin fod "fod wedi arwain at rywbeth lawer mwy difrifol".

Yn ôl William Hughes KC, roedd darluniau'r ferch, yn cyfeirio at ladd Fiona Elias a'r disgybl a gafodd ei thrywanu, yn amlygu ei chyflwr meddyliol ar y pryd.

Plismones tu allan i Ysgol Dyffryn Aman ddiwrnod yr ymosodiad
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd yr achos bod y diffynnydd wedi cario cyllell i'r ysgol

Clywodd y rheithgor bod y ferch wedi dweud "Dwi'n mynd i dy ff**** ladd di" cyn trywanu Fiona Elias, ac fe drywanodd Liz Hopkin yn ei gwddf wrth i hithau geisio ei rhwystro.

Fe ddefnyddiodd y ferch eiriau tebyg wrth redeg wedyn at gyd-ddisgybl, wrth i athrawon geisio'i hatal.

Clywodd y llys bod y ferch wedi dangos cyllell i'w ffrindiau y bore hwnnw gan ddweud ei bod "yn mynd i wneud rhywbeth fyddai'n arwain at gael fy niarddel" a'i bod "yn mynd i drywanu Ms Elias".

Daeth yr heddlu o hyd i ddarluniau gan y diffynnydd oedd yn cyfeirio at y disgybl a gafodd ei thrywanu ganddi, a "Mrs Frogface Elias".

Roedd rhai o'i nodiadau'n cynnwys yr ymadroddion "dwi eisiau gwneud rhywbeth dyw pobl ddim fod i wneud", "pam ydw i eisiau lladd eraill gymaint â dwi eisiau lladd fy hun?" a "dwi'n teimlo fel fy mod am gyflawni trosedd oes".

Menyw yn edrych drwy ffens yr ysgol ar gerbyd heddlu oedd yn rhan o'r ymateb ddiwrnod yr ymosodiad
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y rheithgor bod yr ymosodiadau wedi parhau am tua thri munud, o'r ymosodiad cyntaf i'r foment y cafodd y ferch ei rhwystro gan staff yr ysgol

Dywedodd y ddwy athrawes yn eu cyfweliadau i'r heddlu eu bod yn credu y byddan nhw'n marw wrth gael eu trywanu.

Yn ei thystiolaeth hithau i'r llys, dywedodd y diffynnydd "rwy'n flin, am wn i", wrth gael ei holi am yr ymosodiadau.

Dywedodd ei bod wedi cario cyllell i'r ysgol "yn ddyddiol" ers yr ysgol gynradd, a'i bod wedi gwneud hynny "o reddf" am ei bod wedi cael ei bwlio.

Cafodd y dioddefwyr eu trin yn yr ysbyty.

O'r tair, Liz Hopkin gafodd yr anafiadau mwyaf difrifol, a bu'n rhaid ei chludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Fe welodd y rheithgor luniau camera corff heddwas a deithiodd gyda'r ferch i'r orsaf heddlu.

Dywedodd y ferch "oopsies" wrth gyfaddef trywanu ei chyd-ddisgybl.

"Dwi 90% yn sicr fydd hyn ar y newyddion a bydd hyd yn oed mwy o bobl yn edrych arna i," meddai.

Ychwanegodd: "Dyna un ffordd o fod yn enwog."

Mae disgwyl iddi gael ei dedfrydu ar 28 Ebrill.

Disgrifiad,

"Ni ddylai unrhyw aelod o staff mewn ysgol deimlo'n ofnus am ei ddiogelwch ei hun," meddai Fiona Elias

Yn darllen datganiad y tu allan i'r llys wedi'r dyfarniad, dywedodd Fiona Elias: "Fel rhiant ac athrawes, does neb eisiau gweld merch yn cael ei chosbi am geisio llofruddio.

"Fodd bynnag, roedd y digwyddiad ar 24 Ebrill yn gwbl annerbyniol.

"Mae'r euogfarn yma heddiw yn ddyfarniad mor bwysig - nid yn unig i fi, ond i bob athro.

"Ni ddylai unrhyw aelod o staff mewn ysgol deimlo'n ofnus am ei ddiogelwch ei hun wrth gyflawni dyletswyddau o ddydd i ddydd, a gofyn i ddisgyblion gydymffurfio gyda rheolau'r ysgol."

'Neges glir i ddisgyblion ledled y wlad'

Ychwanegodd ei bod yn gwahodd yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru i drafod gyda hi er mwyn "sicrhau nad oes unrhyw aelod o staff yn mynd trwy'r hyn yr aeth Liz a minnau trwyddo".

"Mae trais geiriol a chorfforol tuag at aelodau staff yn gwbl annerbyniol, a rhaid i ni sicrhau nad yw'r digwyddiad hwn yn digwydd eto yn unman arall.

"Dylid ystyried y dyfarniad hwn heddiw fel neges glir i ddisgyblion ledled y wlad - ni fyddwn am i unrhyw unigolyn arall fynd trwy'r hunllef yr wyf wedi'i ddioddef yn ystod y naw mis diwethaf.

"I unrhyw unigolyn arall sydd wedi bod trwy brofiad o'r fath, byddwch yn gwybod na fydd yr hunllef a'r trawma a brofwyd yn dod i ben heddiw gyda'r euogfarn yma."

Dywedodd ei bod yn diolch i'w theulu a'i ffrindiau, a chymuned Ysgol Dyffryn Aman, ond bod ganddi ddiolch arbennig i Liz Hopkin.

"Oni bai am ei dewrder hi, mae'n bosib na fydden i yma heddiw. Mae fy nyled yn fawr i ti Liz, a nid yw'r gair 'diolch' yn ddigon."

Camau i atal digwyddiad tebyg

Yn dilyn y dyfarniad, mae cyrff cyhoeddus wedi tanlinellu bod dim lle i ymddygiad treisgar yn erbyn staff mewn ysgolion, gan gydymdeimlo â phawb a gafodd ei heffeithio gan yr ymosodiad yn Ysgol Dyffryn Aman.

Mae'r digwyddiad, medd arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin Darren Price, wedi "synnu ac arswydo cymunedau Sir Gaerfyrddin a thu hwnt".

"Rwy'n mawr obeithio y bydd dyfarniad heddiw yn caniatáu i'r dioddefwyr a'r ysgol symud ymlaen yn dilyn y digwyddiad ofnadwy hwn, a bydd eu preifatrwydd yn cael ei barchu," dywedodd.

"Gan fod yr achos wedi dod i ben, bydd yr holl bartneriaid yn cydweithio yn awr i adolygu amgylchiadau'r achos hwn ac i sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i atal digwyddiad o'r fath rhag digwydd eto."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod yr Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle "yn cymryd y mater o ddiogelwch yn yr ysgol wir o ddifri'".

Ychwanegodd y bydd Cynhadledd Ymddygiad Genedlaethol yn cael ei chynnal yn y gwanwyn "i ddod ag ysgolion, awdurdodau lleol ac undebau at ei gilydd i drafod diogelwch staff a disgyblion".