Caerdydd: Carcharu gyrrwr tacsi am dreisio dynes yn ei thŷ

Jakir HussainFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jakir Hussain ei ddedfrydu i 11 mlynedd yn y carchar

  • Cyhoeddwyd

Mae gyrrwr tacsi o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am 11 mlynedd ar ôl iddo dreisio dynes yn ei chartref ar ôl ei chludo adref.

Fe wnaeth Jakir Hussain, 39, fynnu bod y ddynes yn gadael iddo ddefnyddio'r tŷ bach yn ei chartref, cyn ei threisio yn ei hystafell wely.

Clywodd y llys fod Hussain, sy'n dad i ddau o blant, wedi casglu'r ddynes o ganol y ddinas yn ei dacsi ar ôl iddi fod am noson allan gyda ffrindiau.

Ond wedi iddo ei gyrru i'w chartref, fe aeth i gefn y tacsi a chloi'r drysau nes iddi gytuno i adael iddo ddefnyddio'r tŷ bach.

Wedi hynny fe orfododd ei hun i mewn i'w hystafell wely, a'i threisio.

'Methu ymddiried mewn pobl mwyach'

Gwadodd Hussain y cyhuddiad o dreisio, ond cafodd ei ganfod yn euog yn Llys y Goron Merthyr Tudful fis Tachwedd yn dilyn lluniau CCTV a thystiolaeth DNA yn ei erbyn.

Clywodd y llys fod y ddioddefwraig bellach wedi symud o'i chartref oherwydd y digwyddiad, a bod y trawma wedi achosi iddi geisio lladd ei hun.

Dywedodd fod y digwyddiad wedi cael effaith ar "bob agwedd" o'i bywyd, a'i bod hi bellach yn fwy tebygol o beidio ymddiried mewn pobl broffesiynol oedd yn ceisio ei helpu.

"Ers y digwyddiad dwi ddim wedi gallu mynd i mewn i dacsi, dwi methu ymddiried mewn gyrwyr tacsi o gwbl, ac mae hyd yn oed effeithio arna i i'r pwynt lle os yw ffrindiau benywaidd yn mynd am noson allan, na'i gynnig eu gyrru adref yng nghanol nos," meddai.

"Dwi bellach ddim yn ystyried tacsis yn llefydd saff. Nes i ymddiried mewn rhywun roeddwn i'n meddwl oedd yn broffesiynol, i fynd â fi adre'n saff y noson honno."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd Llys y Goron Merthyr fod Hussain wedi twyllo'i ffordd i mewn i'r tŷ

Clywodd y llys fod Hussain, o ardal Grangetown - neu Threlluest - y ddinas, wedi byw ym Mhrydain ers wyth mlynedd, ac ar fin dod yn dad am y trydydd tro.

Dywedodd y cofiadur Eugene Egan y dylai'r ddynes fod wedi gallu disgwyl "cael ei thrin yn barchus" gan ei gyrrwr tacsi a'i "chludo adref yn saff".

"Roeddech chi mewn safle o ymddiriedaeth tuag ati, safle o ymddiriedaeth y cymeroch chi fantais o hynny," meddai.

Ychwanegodd: "Ddylai'r un gyrrwr tacsi fyth fod yn gofyn i ddefnyddio tŷ bach teithiwr benywaidd. Roeddech chi jyst eisiau mynd i mewn i'w thŷ."

Cafodd Hussain ei ddedfrydu i 11 mlynedd o garchar, a'i roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.

Mae hefyd wedi ei wahardd rhag gweithio fel gyrrwr tacsi am gyfnod amhenodol.