Môn: Bwriad i godi gwesty moethus ar safle hen ysgol

Canolfan Penrallt, LlangefniFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Canolfan Penrallt yn arfer bod yn ysgol adnabyddus ar yr ynys

  • Cyhoeddwyd

Fe allai hen ysgol ar Ynys Môn gael ei throi yn westy moethus.

Mae'r cyngor sir wedi derbyn cais i drawsnewid Canolfan Penrallt, Llangefni, yn westy 13 ystafell.

Byddai'r safle, yn ôl y datblygwyr, hefyd yn fan ar gyfer cynnal priodasau.

Dywedodd yr ymgeisydd Jerry Huppert y byddai 14 o swyddi llawn amser a chwe swydd rhan amser yn cael eu creu.

Roedd yr adeilad, sydd wedi ei leoli ger cofeb rhyfel Llangefni a chanolfan hamdden Plas Arthur, yn arfer bod yn rhan o gampws Coleg Menai.

Cyn hynny roedd yn ysgol amlwg, a oedd yn cael ei hadnabod fel 'Ysgol Sirol Llangefni' cyn cael ei difrodi gan dân yn 1939.

Cafodd Ysgol Gyfun Llangefni gerllaw ei hadeiladu ar ddechrau'r 1950au.

Mae disgwyl i adran gynllunio Cyngor Môn ystyried y cais dros y misoedd i ddod.

Pynciau cysylltiedig