Stena Line wedi prynu hen safle 2 Sisters Llangefni

Ffatri 2 Sisters Llangefni cyn i'r safle gau
Disgrifiad o’r llun,

Fe gaeodd ffatri 2 Sisters yn Llangefni ddiwedd Mawrth 2023, gan ddiswyddo 700 o bobl

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni Stena Line wedi prynu safle hen ffatri 2 Sisters yn Llangefni fel rhan o'u cynlluniau ehangach i hybu economi Ynys Môn.

Fe gaeodd y ffatri ddiwedd Mawrth 2023, gan dorri 700 o swyddi.

Daeth cyhoeddiad y cwmni fferis wrth iddyn nhw amlinellu rhagor o fanylion ynghylch datblygu hen safle Alwminiwm Môn yng Nghaergybi fel rhan o gynllun sefydlu Porthladd Rhydd yr ynys.

Maen nhw'n dweud y bydd y safle, sydd nawr â'r enw Parc Ffyniant, yn gartref i "gampws modern, gorau yn y byd ar gyfer buddsoddiad busnes, swyddi a chyfleoedd newydd".

Fe fydd datblygu ardal 200,000 metr sgwâr ym Mharc Ffyniant, "fel rhan o gampws carbon isel", yn dod â budd o tua £578m yn y dyfodol, medd Stena Line, sydd gyfystyr â chynyddu maint economi Môn 33%.

Mae gwaith eisoes wedi bod i glirio adeiladau oedd wedi adfeilio ac adfer y tir ar gyfer adeiladau newydd.

Gan sôn am greu "hyd at 1,200 o swyddi cyflog uchel", mae'n fwriad i godi dros 15,000 metr sgwâr o swyddfeydd at ddibenion meysydd fel ymchwil a datblygu, ynni gwyrdd a deallusrwydd artiffisial.

Mae'r cwmni "wedi gallu ehangu uchelgais a graddfa" eu buddsoddiad ym Môn trwy brynu dros 100 acer o dir o amgylch ardal Cae Glas y dref, ochr arall yr A55 o Barc Ffyniant, yn ogystal â hen ffatri 2 Sisters Llangefni.

Ffynhonnell y llun, Stena Line
Disgrifiad o’r llun,

Mae gobaith y bydd cannoedd o swyddi yn cael eu creu ym Mharc Ffyniant

Fe fydd y safleoedd ychwanegol yma, medd Stena Line, yn ehangu'r weledigaeth ar gyfer y Porthladd Rhydd, gan gynnig "mwy o hyfforddiant o ran yr holl sgiliau, a llwybrau datblygu gyrfa clir i bobl leol".

Fe fydd "swyddi, hyfforddiant a'r genhedlaeth nesaf o dechnoleg yn dod i Ynys Môn" yn sgil y cynlluniau, yn ôl cyfarwyddwr gweithredol Stena Line, Ian Hampton.

"Trwy fuddsoddi ymhellach yn y tir yng Nghae Glas a hen safle 2 Sisters, rydym wedi dangos maint ein ffydd yn Ynys Môn...

"Rydym yn credu y bydd ein cynlluniau yn gwarchod ac yn gwella treftadaeth Ynys Môn, y Gymraeg a'r diwylliant yr ydym yn falch o fod yn rhan ohono am dros 30 o flynyddoedd."

Mae'r cwmni nawr yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch eu cynlluniau i ddatblygu Parc Ffyniant cyn eu cyflwyno i'r cyngor sir yn y flwyddyn newydd.

Mae modd i'r cyhoedd fynegi barn ar y cynlluniau tan 10 Ionawr 2025.

Pynciau cysylltiedig