Cwestiynu hygrededd adolygiad o swyddfa Ombwdsmon
- Cyhoeddwyd
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cwestiynu hygrededd adolygiad a gyhoeddwyd ddydd Llun i gorff gwarchod gwasanaethau cyhoeddus Cymru, a sefydlwyd ar ôl honiadau o ragfarn wleidyddol yn erbyn ymchwilydd.
Ymddiswyddodd yr ymchwilydd, Sinead Cook, o swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yr wythnos ddiwethaf yn dilyn honiadau ynghylch negeseuon sarhaus ar-lein.
Uwch fargyfreithiwr, James Goudie KC, sydd â chysylltiadau hirsefydlog â’r blaid Lafur, fydd yn cynnal yr adolygiad.
Mae Mr Goudie yn gyn-arweinydd Llafur ar Gyngor Brent, ac roedd yn ymgeisydd Llafur mewn etholiad Seneddol yng ngogledd Llundain yn 1974.
Mae hefyd yn gyd-gadeirydd yr is-grŵp hawliau dynol yng Nghymdeithas y Cyfreithwyr Llafur, yn ôl gwefan y sefydliad.
Beth yw'r cefndir?
Cafodd Ms Cook ei gwahardd o'i gwaith ar 29 Mawrth, cyn iddi ymddiswyddo.
Hyd at haf 2023 roedd hi wedi rheoli tîm cod ymddygiad cynghorwyr yr ombwdsmon.
Honnir iddi wneud sylwadau sarhaus ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys un neges oedd yn defnyddio iaith sarhaus am y Ceidwadwyr.
Mae BBC Cymru hefyd wedi siarad â sawl cynghorydd Cymreig sydd wedi codi pryderon am ogwydd gwleidyddol yn swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar lywodraeth leol, Sam Rowlands AS: “Mae penodiad James Goudie KC i arwain yr adolygiad i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn codi amheuon difrifol am ei hygrededd.
“Y bargyfreithiwr sy’n cynnal yr ymchwiliad hwn yw cyn-arweinydd Cyngor Llafur a chyn ymgeisydd Llafur.
“Sut allwn ni ddisgwyl i adolygiad o dan yr amgylchiadau hyn gael hyder y cyhoedd gyda bargyfreithiwr o’r fath yn ei arwain?”
Mae Mr Goudie wedi cael cais i wneud sylw, a'r Ombwdsmon hefyd wedi cael cais am ymateb.
Beth yw pwrpas swyddfa'r ombwdsmon?
Gwaith swyddfa'r ombwdsmon yw ymchwilio i gwynion a wneir gan y cyhoedd am gyrff cyhoeddus a chynghorwyr sydd wedi'u cyhuddo o dorri eu cod ymddygiad.
Mae ei egwyddorion arweiniol yn cynnwys didueddrwydd ac annibyniaeth.
Bydd cylch gwaith yr adolygiad yn cynnwys archwilio achosion lle penderfynodd Ms Cook a'i thîm beidio ag ymchwilio.
Ond mewn datganiad ddydd Mercher, cyn i'r Ceidwadwyr godi eu pryderon, dywedodd yr Ombwdsmon - Michelle Morris - na fyddai'n cynnwys achosion yr ymchwiliwyd iddynt.
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2024
Meddai: “Y cyfarwyddwr ymchwiliadau/prif gynghorydd cyfreithiol sy’n gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch dechrau ymchwiliad ai peidio.
"Pan ddaw’r ymchwiliad hwnnw i ben, yr Ombwdsmon sy’n penderfynu a ddylid cyfeirio cwyn at Bwyllgor Safonau neu Banel Dyfarnu Cymru.
"Mae hyn yn golygu bod gwiriadau cadarn ar waith i sicrhau bod pob ymchwiliad wedi'i gynnal yn briodol ac yn ddiduedd.
"Fy rôl i, fel Ombwdsmon, yw ymchwilio a phenderfynu a ddylid cyfeirio’r achos at y Pwyllgor Safonau perthnasol neu i Banel Dyfarnu Cymru i’w ystyried ai peidio.
"Nid oes gennyf unrhyw rôl i ddod i gasgliad ynghylch a dorrwyd Cod Ymddygiad Cynghorwyr, nac wrth benderfynu ar unrhyw gosb.”
Gall cynghorwyr hefyd apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad a wneir gan bwyllgor safonau eu hawdurdod lleol neu Banel Dyfarnu Cymru.
Mae Ms Morris eisoes wedi cydnabod bod angen i’w sefydliad “ailadeiladu ymddiriedaeth”.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw o'r blaen am ail-archwilio pob achos yr oedd Sinead Cook yn rhan ohono.
Aeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru David TC Davies ymhellach, gan alw am ddisodli’r Ombwdsmon ei hun, Michelle Morris, a swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Mae’r Ombwdsmon yn benodiad y Goron yn dilyn argymhelliad gan Senedd Cymru.