Cwpl o Gymru yn achub chwech o bobl o ffrwydrad cwch tra ar wyliau

Roedd Josh Hobbs a Hannah Lloyd-Hobbs ar wyliau yn Lechlade pan glywon nhw "bang mawr"
- Cyhoeddwyd
Mae cwpl o Bowys wedi cael clod am eu "dewrder arwrol" ar ôl achub pedwar o blant a dau oedolyn o'r Afon Tafwys yn Lloegr wedi i gwch ffrwydro.
Roedd Josh Hobbs, 35, a Hannah Lloyd-Hobbs, 34, o Raeadr, ar wyliau yn Lechlade, ger y ffin rhwng Wiltshire a Swydd Rhydychen, pan glywon nhw "bang mawr" wrth fynd â'r ci am dro wrth yr afon ddydd Sadwrn.
Pan welodd y cwpl y plant a'r oedolion yn y dŵr a'r fflamau yn dod o'r cwch, fe neidiodd y ddau i'r afon i'w hachub.
Dywedodd Heddlu Wiltshire fod naw person wedi cael eu cludo i'r ysbyty, gyda dau - gan gynnwys plentyn 18 mis oed - wedi dioddef anafiadau a allai newid eu bywydau.

Mae dau - gan gynnwys y plentyn 18 mis oed - wedi dioddef llosgiadau a allai newid eu bywydau, meddai Heddlu Wiltshire
Dywedodd y cwpl eu bod "yn y lle iawn ar yr amser iawn" pan welon nhw'r tân mawr yn dod o'r afon.
"Clywson ni bang mawr," meddai Josh. "Ac yn syth wedyn roedden ni'n clywed y sgrechian yn dod o'r cwch.
"Roedd rhai yn sgrechian fod nhw methu nofio ond roedd neidio i'r dŵr yn ddewis gwell nag aros ar y cwch.
"Roedd plentyn 18 mis oed ymysg y rhai yn y dŵr felly wnaeth Hannah neidio i mewn i'r afon i'w hachub tra o'n i'n aros efo'r ci i ddechrau."

Cafodd Heddlu Wiltshire eu galw i'r digwyddiad am tua 12:00 ddydd Sadwrn, 31 Mai
Ar ôl sylwi bod nifer o bobl oedd yn y dŵr methu nofio, fe neidiodd Josh i mewn hefyd i geisio eu hachub.
"Es i i'r dŵr ar ôl gweld dau blentyn ifanc ac fe wnes i afael nhw a mynd â nhw'n ôl i'r llan.
"Wedyn welais i fod plentyn ifanc arall yn y dŵr yn cael ei ddal i fyny gan ddynes oedd methu nofio.
"Doedd ei gŵr hi methu nofio chwaith felly oedd rhaid i fi wneud yn siŵr 'mod i'n cadw pennau'r tri ohonyn nhw uwchben y dŵr cyn pasio'r plentyn ymlaen i rywun arall."
Cafodd y ffrwydrad ei glywed am filltiroedd ac fe ddaeth nifer o bobl i'r lleoliad i helpu.
Fe wnaethon nhw helpu Josh i gael gweddill y grŵp allan o'r dŵr ac i roi cymorth cyntaf.
'Gwyrth bod neb wedi marw'
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Joe Garrity: "Mae'n wyrth bod neb wedi marw ac mae hynny'n ddiolch i'r cwpl o Gymru a oedd yn digwydd bod yn mynd heibio.
"Heb feddwl am eu diogelwch eu hunain fe neidion nhw i'r Tafwys i helpu i achub bywydau'r pobl yn y dŵr, gyda rhai ohonyn nhw'n methu nofio.
"Roedd yn ddewrder arwrol."
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Wiltshire: "Mae tri o bobl yn parhau yn yr ysbyty yn dilyn ffrwydrad ar gwch yn Lechlade dros y penwythnos.
"Tua hanner dydd ddydd Sadwrn cawsom adroddiad am dân mewn cwch ar Afon Tafwys.
"Ar adeg y digwyddiad roedd y cwch i ffwrdd o'r lan ac o ganlyniad fe wnaeth pawb oedd ar ei fwrdd – pump o oedolion a phedwar o blant rhwng 18 mis a saith oed – neidio yn y dŵr.
"Cafodd y naw person eu cludo i'r ysbyty. Mae tri o'r criw yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog, ac mae dau ohonynt - gan gynnwys y plentyn 18 mis oed - wedi dioddef llosgiadau a allai newid eu bywydau."