Heddwas yn gwadu ymosod yn rhywiol ar blentyn
- Cyhoeddwyd
Mae rheithgor yng Nghaerdydd wedi clywed bod swyddog gyda Heddlu Gwent wedi ymosod yn rhywiol ar blentyn dan 13 oed.
Mae John Stringer, sy'n 42 oed ac o Gaerdydd, yn gwadu pum cyhuddiad yn ymwneud â cham-drin plentyn.
Clywodd y llys bod Mr Stringer wedi cael ei arestio wedi i'r ferch siarad gyda chymhorthydd dysgu yn yr ysgol.
Dywedodd Ian Wright ar ran yr erlyniad y byddai Mr Stringer, yn ôl y ferch, "yn ei chyffwrdd mewn ffordd rywiol".
Roedd y ferch hefyd yn honni y byddai'n "dangos fideos iddo o ferched hanner noeth" ac "achosi iddi wneud yr un peth ag oedd y merched yn ei wneud yn y fideo".
Fe gafodd rhieni'r ferch eu galw i'r ysgol, yr heddlu eu hysbysu a Mr Stringer ei arestio yr un diwrnod.
Clywodd y llys bod y ferch wedi recordio cyfweliad i'r heddlu yn y dyddiau canlynol.
Roedd Mr Stringer, meddai, wedi mynnu iddi wneud yr hyn y dywedodd wrthi am ei wneud, er ei hamharodrwydd hithau.
Honnodd y ferch hefyd i Mr Stringer ddweud taw "hithau fyddai ar fai" pe bai ei rhieni'n dod i wybod beth oedd yn digwydd ac yn ei gael yntau i drwbl.
Mae Mr Stringer wedi pledio'n ddieuog i bum cyhuddiad - dau o ymosod yn rhywiol, dau o achosi neu ysgogi plentyn dan 13 i gymryd rhan mewn gweithred rywiol ac un o achosi plentyn i wylio gweithred rywiol.
Mae'r achos yn parhau.