Arestio dyn, 21, yn sgil fideo yn bygwth disgyblion coleg

Dywedodd Coleg Merthyr Tudful y byddai'r safle ar agor i fyfyrwyr ar ddiwrnod cyntaf y tymor
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i fideo yn bygwth disgyblion yng Ngholeg Merthyr Tudful ledaenu ar y we.
Dywedodd Heddlu'r De fod dyn 21 oed o ardal Gwent wedi cael ei arestio nos Sul.
Dywedodd y coleg ar y cyfryngau cymdeithasol y byddai'r drysau'n agor i fyfyrwyr ar ddiwrnod cyntaf y tymor.
Yn ôl yr heddlu, fe gawson nhw wybod am fideo ar Youtube nos Sul, "lle y cafodd bygythiadau eu gwneud tuag at bobl sy'n mynychu coleg Merthyr Tudful".
Mae'r dyn a gafodd ei arestio yn y ddalfa, meddai'r heddlu, ac mae "ymchwiliad ar y gweill nawr i sefydlu'r amgylchiadau llawn".
'Diolch i'r heddlu am weithredu yn gyflym'
Mewn post Facebook, diolchodd Cyngor Merthyr Tudful i'r heddlu am "weithredu'n gyflym", gan ddweud y byddai'r coleg "ar agor heddiw, fel y cynlluniwyd, ar gyfer diwrnod cyntaf y myfyrwyr yn ôl y flwyddyn academaidd hon".
Dywedodd tîm gweithredol y coleg mewn datganiad fod y penderfyniad i agor y coleg wedi'i wneud yn dilyn "adolygiad ac asesiad trylwyr o ddiogelwch staff, addysgwyr a defnyddwyr yr adeilad".
"Mae'r coleg yn parhau fod mewn cyswllt gyda Heddlu De Cymru, wrth i'w hymchwiliadau a'u hymholiadau barhau."