Angen newidiadau mawr wedi 'cythrwfl' Hybu Cig Cymru - adroddiad

Cig ar werthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhan helaeth cyllid Hybu Cig Cymru yn deillio o ardoll sy'n cael ei thalu gan ffermwyr a phroseswyr

  • Cyhoeddwyd

Mae angen newidiadau mawr ar frys er mwyn adennill hyder yn y corff sy'n gyfrifol am hyrwyddo cig Cymreig, yn ôl ymchwiliad gan Aelodau'r Senedd.

Mae'r adroddiad yn galw am "gamau gweithredu pendant" yn dilyn "cythrwfl mewnol a heriau o ran arweinyddiaeth" yn Hybu Cig Cymru (HCC).

Ymysg yr argymhellion mae "adolygiad llawn" o lywodraethiant a pherchnogaeth y corff gan Lywodraeth Cymru.

Fe ddiolchodd y llywodraeth i aelodau'r pwyllgor economi, masnach a materion gwledig am eu gwaith, gan ddweud y byddan nhw'n ymateb maes o law.

Gwaith HCC yw datblygu a hyrwyddo'r sector cig coch yng Nghymru, ac mae wedi'i ariannu'n bennaf drwy doll sy'n cael ei thalu gan ffermwyr a phroseswyr ar wartheg, defaid a moch.

Er mai Llywodraeth Cymru sy'n berchen ar ac yn goruwchwylio'r corff, mae'n gweithredu yn annibynnol - neu "hyd braich" o'r llywodraeth i ddefnyddio'r jargon.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae HCC wedi wynebu problemau niferus a chyfres o benawdau negyddol.

Mae'r trafferthion yn cael eu crynhoi yn adroddiad y pwyllgor ac yn cynnwys: "Ymchwiliad mewnol i gyhuddiadau o fwlio, ymadawiad y Prif Weithredwr dan gwmwl a'r hyn a ddisgrifiwyd fel 'allfudiad staff'.

"Ar ôl cyfnod anodd o aflonyddwch mewnol a cholli hyder, mae hon yn foment dyngedfennol i ailadeiladu ymddiriedaeth, cryfhau llywodraethu, a sicrhau bod y sefydliad yn wirioneddol atebol i'r talwyr ardoll sy'n ei ariannu," dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Andrew RT Davies AS.

'Rhaid cael gwerth am arian'

Mae'r adroddiad yn galw am adolygiad llawn o strwythur HCC, gan gynnwys y posibilrwydd o ddychwelyd perchnogaeth i'r diwydiant a sicrhau gwell cynrychiolaeth o ffermwyr a phroseswyr ar y bwrdd.

Mae angen targedau mesuradwy ar berfformiad ac atebolrwydd er mwyn "sicrhau gwerth am arian", tra bod eisiau i'r sefydliad "wella gwelededd a chyfathrebu" gydag amaethwyr.

Clywodd y pwyllgor hefyd bod yna bryderon ynglyn â chynaliadwyedd ariannol HCC, yn rhannol oherwydd cwymp mewn niferoedd da byw yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a daeth i'r casgliad nad oedd ganddo ddigon o adnoddau i allu cyrraedd ei amcanion.

"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru nawr gamu i fyny a gweithredu ar yr argymhellion hyn i sicrhau dyfodol ein sector cig coch," meddai Mr RT Davies.

DefaidFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith HCC yw datblygu a hyrwyddo'r sector cig coch yng Nghymru

Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman bod canfyddiadau'r pwyllgor yn ategu galwadau y mae'r diwydiant wedi'u gwneud ers tro "am fwy o dryloywder a gwell cyfathrebu" gan HCC.

"Allwn ni ddim tanbrisio pwysigrwydd cael bwrdd ardollau cig coch effeithiol yng Ngymru," meddai.

Dywedodd HCC eu bod yn croesawu'r argymhellion "sy'n dod ar gyfnod amserol i'r diwydiant wrth i ni edrych ar gwblhau cynllun gweithredu i'r dyfodol gyda thalwyr ardoll ar gyfer 2026 a thu hwnt".

Ychwanegodd y prif weithredwr José Peralta, gafodd ei benodi wedi'r trafferthion diweddar, bod HCC wedi bod yn galw am fwy o gyllid er mwyn medru "cyflawni'n effeithiol ar ran talwyr ardoll... ac yn parhau i drafod opsiynau cyllido gyda Llywodraeth Cymru".

"Rydym hefyd yn cytuno gydag argymhelliad yr adroddiad ar gynyddu ein gwaith ar y cyd gyda chyrff eraill a ariennir gan y llywodraeth yn ogystal â'r byrddau ardoll eraill," meddai.

"Mae HCC wedi cynyddu ei ymgysylltiad yn helaeth yn 2025 ac yn cydnabod bod mwy y gellir ei wneud o hyd," ychwanegodd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni'n diolch i'r pwyllgor am yr adroddiad cynhwysfawr yr ydym ni nawr yn ei adolygu a byddwn yn ymateb i'r argymhellion maes o law."