'Pryder difrifol' am ariannu corff marchnata cig Cymru

DefaidFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae prif weithredwr newydd Hybu Cig Cymru yn dweud ei fod yn pryderu'n fawr am y gostyngiad yn incwm y corff.

Yn ôl Jose Peralta – a gafodd ei benodi y gynharach eleni – mae'n bosib iawn y bydd rhaid gofyn i Lywodraeth Cymru am fwy o arian os y bydd ffermwyr yn dymuno iddyn nhw barhau â'u dyletswyddau presennol.

Roedd yr incwm i'r corff o'r lefi y llynedd - sef cyfraniad gan ffermwyr a lladd-dai ar gyfer pob anifail sy'n cael ei ladd - yn is yn 2024 o'i gymharu gyda'r flwyddyn flaenorol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "gwaith Hybu Cig Cymru yn hynod bwysig" a'u bod yn "rhannu gweledigaeth ar gyfer diwydiant proffidiol, cynaliadwy, arloesol a chystadleuol sydd hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi wledig ehangach".

"Rydym yn cydnabod y sefyllfa ariannol heriol i HCC oherwydd nifer o ffactorau gan gynnwys gostyngiad yn incwm lefi cig."

Jose Peralta, Prif weithredwr HCC
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n bosib y bydd rhaid inni chwilio am ateb sy'n cyfuno gwneud llai a chynyddu ein cyllid," awgryma Jose Peralta, prif weithredwr Hybu Cig Cymru

Yn ôl y prifweithredwr, Jose Peralta: "Mae'n bryder difrifol i'r diwydiant a Hybu Cig Cymru.

"Os oes llai o dda byw - a bod angen inni barhau â'n cylch gorchwyl presennol - yna fe fydd hynny yn lleihau ein heffeithlonrwydd ni.

"Yn y tymor canolig i'r hir dymor, mae'n bosib y bydd rhaid inni chwilio am ateb sy'n cyfuno gwneud llai a chynyddu ein cyllid," meddai wrth raglen Ffermio ar S4C.

Ychwanegodd y byddai'n ffafrio gofyn i'r llywodraeth am arian i ddechrau yn hytrach nag ystyried dewisiadau eraill fel codi'r lefi ymhellach, er enghraifft.

Gwyn Howells, Cyn brif weithredwr HCC
Disgrifiad o’r llun,

Mi wnaeth y cyn-brif weithredwr, Gwyn Howells, ymddiswyddo ym mis Mehefin 2024

Mae HCC wedi cael cyfnod heriol yn sgil problemau staffio mewnol.

Y llynedd, mi wnaeth y cyn-brif weithredwr, Gwyn Howells, ymddiswyddo wedi proses ddisgyblu.

Yn ôl bwrdd HCC, byddai wedi cael ei ddiswyddo pe na bai wedi ymddiswyddo.

Yn ôl Jose Peralta - oedd ddim yn gweithio i HCC yn ystod y cyfnod hwnnw – mae ganddo'r sgiliau arweinyddiaeth i symud y corff ymlaen ac adfer hyder ffermwyr yn eu gwaith.

"Mae gen i brofiad helaeth o arwain cwmnïau oedd yn cyflogi miloedd o bobl, a mae gen i steil arwain clir iawn sy'n cyfuno eglurder a chefnogaeth – ac adran adnoddau dynol gref."

Ers dechrau ar ei swydd, mae'n dweud nad ydy o wedi gweld unrhyw dystiolaeth o bryderon yn ymwneud â gallu HCC i wneud ei waith.

cig eidion

Mae'r corff newydd ddechrau proses ymgynghori er mwyn ffurfio strategaeth newydd ar gyfer 2030.

Maen nhw wedi bod yn ymweld â marchnadoedd da byw er mwyn cyfarfod â ffermwyr yn ogystal â chysylltu gyda rhanddeiliaid.

Mae cyfle hefyd i ffermwyr lenwi holiadur ar lein.

Bu John Davies o Sir Benfro yn aelod o fwrdd HCC ers 2017 – ac mae o'n derbyn fod y corff wedi cael cyfnod anodd.

"Mae'n ffaith – mae hi wedi bod yn foroedd tymhestlog ar HCC ac ar y diwydiant hefyd.

"A serch fod prisiau yn uchel iawn iawn, mae 'na nerfusrwydd mawr, a phobl yn holi am faint mae hyn yn mynd i bara.

"Mae gan HCC rôl yn hyn o beth i geisio rhoi sicrwydd i ffermwyr a gobeithio fod pobl yn gweld fod pethau yn sefydlogi unwaith eto gyda phenodi prif weithredwr newydd."

John Davies, Cwm Betws
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl John Davies o Sir Benfro, aelod o fwrdd HCC ers 2017, mae 'na "nerfusrwydd mawr" yn y diwydiant

Mae John Davies hefyd yn annog ffermwyr i ymateb i'r ymgynghoriad.

"Dewch â'ch lleisiau inni. Gwedwch be' chi moin ar y diwydiant, ar eich fferm chi, ar eich busnes chi a mae angen inni wrando a dadansoddi hynny'n ofalus iawn.

"Mae 'na bedair blynedd o siwrne fan hyn a mi fydd yn bedair blynedd gyda heriau hollol wahanol o gymharu â'r pedair blynedd sydd wedi mynd heibio.

"Ac mae na gyfrifoldeb ar y llywodraeth fan hyn a mae angen inni felly gael y neges yn iawn er mwyn i'r llywodraeth – sydd yn rhanddeiliaid amlwg – gael gwybod y neges hynny."