Hybu Cig Cymru yn 'siop siafins eilradd'

Cig
  • Cyhoeddwyd

Mae'r corff sydd yn hyrwyddo cig coch Cymreig wedi ei labelu yn "siop siafins eilradd" gan gynrychiolwyr y diwydiant cig.

Yn ôl Cymdeithas Annibynnol Cyflenwyr Cig, mae angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd i wneud yn siŵr bod Hybu Cig Cymru yn gwneud eu gwaith yn iawn.

Datgelodd rhaglen Newyddion S4C ym mis Chwefror eleni bod chwech aelod o staff y corff wedi cwyno, ar wahân, eu bod nhw'n cael eu bwlio.

Dywed Hybu Cig Cymru eu bod nhw'n "gweithio'n ddiflino i hyrwyddo'r diwydiant cig coch yng Nghymru, drwy'r Deyrnas Unedig ac ar draws y byd".

Fe ysgrifennodd Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros ogledd Cymru, Llyr Gruffydd, at y Gweinidog Materion Gwledig ar y pryd, Lesley Griffiths, i alw arni i ymyrryd.

Roedd e'n poeni am ddiwylliant y corff.

Ond dweud na allan nhw wneud sylw ar faterion staffio mewnol corff hyd braich wnaeth y llywodraeth.

Mae bellach wedi dod i'r amlwg i ddau o gyfarwyddwyr Hybu Cig Cymru ymddiswyddo yr wythnos ddiwethaf.

Does dim awgrym eu bod nhw'n ymwneud â'r honiadau o fwlio.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwyn Howells wedi ymddiswyddo o'i rôl fel Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru

A phrynhawn Mawrth, fe gadarnhaodd Hybu Cig Cymru bod y Prif Weithredwr, Gwyn Howells, wedi ymddiswyddo ar ôl bod i ffwrdd o'i waith ers haf y llynedd.

Does dim awgrym ei fod e, chwaith, yn ymwneud â'r honiadau bwlio.

'Baner goch reit fawr'

Ysgrifennodd Llyr Gruffydd at yr Ysgrifennydd cyfredol dros Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies ddydd Mawrth, gan alw o'r newydd am ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Mae wedi cyrraedd y pwynt erbyn hyn lle mae cyfarwyddwyr yn ymddiswyddo. I fi, mae honna yn faner goch reit fawr.

"Mi ddylai'r Gweinidog fod yn rhannu fy mhryder i, ac eisiau sicrhau ei hun bod y sefyllfa yn cael ei ddelio ag e mewn modd cywir."

Dywedodd James Evans AS, llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Cymreig bod "diwylliant y corff yn peri pryder".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Llyr Gruffydd yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd

Mae rhai o fewn i'r diwydiant amaeth hefyd wedi lleisio pryder am Hybu Cig Cymru.

Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru mewn datganiad: "Mae angen tryloywder gan Lywodraeth Cymru sydd wedi bod yn ymwybodol o broblemau o fewn y sefydliad ers blwyddyn.

"Gweinidogion Llywodraeth Cymru sy’n penodi Cadeirydd ac aelodau bwrdd HCC ac fel corff cyhoeddus eu cyfrifoldeb yw ail-adeiladu hyder y diwydiant amaeth yng ngwaith Hybu Cig Cymru i’r dyfodol."

Ymatebodd Hybu Cig Cymru drwy ddweud eu bod nhw'n dal i barhau â'u gwaith pwysig a bod cynlluniau wedi hen ddechrau ar gyfer y Sioe Frenhinol fis nesaf.

Pynciau cysylltiedig