Pryder am 'honiadau o fwlio' yn Hybu Cig Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cig coch
Disgrifiad o’r llun,

Nod Hybu Cig Cymru yw hyrwyddo cynnyrch cig oen, cig eidion a phorc Cymreig

Mae Aelod o'r Senedd wedi galw ar y llywodraeth a phwyllgor seneddol i ymchwilio i Hybu Cig Cymru.

Mae Llyr Gruffydd yn poeni am "honiadau o fwlio a'r modd y mae'r cadeirydd a rhai aelodau o'r bwrdd wedi delio â'r rhain."

Cwmni preifat yw Hybu Cig Cymru, ond Llywodraeth Cymru sy'n berchen arno ac yn ei oruchwylio.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau ynghylch materion staffio o fewn cyrff hyd braich.

"Bydd y gweinidog yn ymateb i'r ohebiaeth maes o law."

Disgrifiad o’r llun,

Cwmni preifat yw Hybu Cig Cymru, ond Llywodraeth Cymru sy'n berchen arno ac yn ei oruchwylio

Nod Hybu Cig Cymru yw hyrwyddo cynnyrch cig oen, cig eidion a phorc Cymreig.

Yn ôl ei adroddiad blynyddol diweddaraf, roedd yn cyflogi 35 o weithwyr yn 2021.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud fod y corff wedi derbyn incwm o ryw £3.5m drwy dreth sydd wedi'i osod ar ffermwyr sy'n gwerthu cig coch, a £2m yn ychwanegol drwy grantiau llywodraeth.

Angen 'canfod y ffeithiau'

Mewn llythyr at Weinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, mae aelod Plaid Cymru dros y gogledd, Llyr Gruffydd yn dweud ei fod yn "anfodlon" gyda chyfathrebu preifat blaenorol rhyngddo fe a'r gweinidog ynglŷn â honiadau diweddar am Hybu Cig Cymru.

Mae'n galw ar Ms Griffiths i "ymyrryd yn uniongyrchol" ac yn dweud y bydd hefyd yn ysgrifennu at bwyllgor y Senedd ar yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, er mwyn "canfod y ffeithiau a rhoi sicrwydd o ran arweinyddiaeth a llywodraethant y corff, ei brosesau mewnol a'i allu i weithredu".

Dywed Mr Gruffydd bod yn rhaid ymyrryd er mwyn amddiffyn y rheiny sy'n ymwneud â'r honiadau o fwlio ac er mwyn osgoi niwed i sector cig coch Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Llyr Gruffydd o'r farn bod angen ymyrryd er mwyn amddiffyn y rheiny sy'n ymwneud â'r honiadau o fwlio

Dyma'r sefydliad cenedlaethol diweddaraf i wynebu cwestiynau am ei lywdraethiant a'i ddiwylliant, wedi sawl sgandal amlwg diweddar o fewn Undeb Rygbi Cymru, S4C a Gwasanaeth tân De Cymru.

Mae Newyddion S4C yn deall i chwe aelod o staff Hybu Cig Cymru gwyno ar wahân am fwlio gan reolwr o fewn y corff.

Cafodd ymchwiliad allanol ei gomisiynu, gan gynnal nifer o gwynion yn erbyn y rheolwr hwnnw.

Er i Hybu Cig Cymru ddweud y bydden nhw yn "gweithredu", mae BBC Cymru yn deall nad yw manylion y gweithredu yna wedi ei rannu gyda staff, ac mae rhai yn teimlo nad yw'r sefydliad wedi delio gyda'r cwynion yn briodol.

Dywedodd Phil Stocker, prif weithredwr y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol (NSA): "Dwi'n clywed pob math o straeon a honiadau yn dod o Hybu Cig Cymru, ac rwy'n poeni am sut mae'r trethi mae ffermwyr yn talu yn cael ei ddefnyddio, ac a ydy hynny'n golygu bod Hybu Cig Cymru yn tynnu sylw oddi ar yr hyn sy'n bwysig."

'Ni fyddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth'

Mewn datganiad, dywedodd Hybu Cig Cymru: "Mae'n rhaid i ni eich cynghori na fyddai hi'n iawn i unrhyw faterion HR gael eu trafod yn gyhoeddus ar sail ffynonellau anhysbys.

"Byddai cyhoeddi'r math yna o wybodaeth yn peryglu enw da Hybu Cig Cymru.

"Dydyn ni ddim yn gwneud sylw ar faterion staffio mewnol ac felly ni fyddwn ni'n rhannu rhagor o wybodaeth gyda chi."

Daw'r ymateb yma wrth i brif weithredwr Hybu Cig Cymru, Gwyn Howells, fod i ffwrdd o'i waith ers haf y llynedd.

Does dim awgrym ei fod e'n gysylltiedig â'r cwynion o fwlio sydd wedi eu hamlinellu uchod.

Fe gadarnhaodd Hybu Cig Cymru "na fydd e'n ymgymryd â'i ddyletswyddau am gyfnod o amser" a'i fod "ar gyfnod o absenoldeb oherwydd salwch".