Y cyn-weinidog Lee Waters i adael y Senedd yn 2026
- Cyhoeddwyd
Mae’r Aelod o'r Senedd Lee Waters wedi cyhoeddi na fydd yn ceisio cael ei ethol yn 2026, gan ddweud ei fod wedi treulio digon o amser mewn gwleidyddiaeth.
Mae Mr Waters wedi bod yn aelod dros Lanelli ers 2016, ac ef oedd y dirprwy weinidog dros yr economi a thrafnidiaeth nes i Vaughan Gething gael ei ethol yn brif weinidog yn gynharach eleni.
Roedd yn ffigwr dadleuol yn ystod y cyfnod hwnnw wrth iddo gyflwyno'r gyfraith a oedd yn gosod terfyn cyflymder o 20mya mewn sawl man.
Wrth ysgrifennu ar wefan LinkedIn dywedodd nad oedd yn cynnig ei enw i gael ei ddewis fel ymgeisydd ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026.
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2024
Ysgrifennodd: “Erbyn yr etholiad nesaf fe fydda i wedi treulio degawd llawn yn ein Senedd.
"Dydw i erioed wedi ystyried swydd etholedig yn yrfa, ond yn hytrach yn wasanaeth cyhoeddus.
“Rydw i wedi rhoi 100% i’r rôl ac wedi gwneud fy ngorau glas fel cynrychiolydd etholaeth ac fel gweinidog.
"Rwy'n ddiolchgar i bobl Llanelli a Chwm Gwendraeth am roi'r cyfle i mi wasanaethu. Mae wedi bod yn fraint wirioneddol, ac yn her enfawr."
Pan wnaeth Mr Waters y cyhoeddiad yn gynharach eleni ei fod yn gadael ei rôl fel gweinidog, dywedodd y byddai hefyd yn gadael X, sef Twitter gynt.
Ysgrifennodd ar y pryd: “Dros y 15 mlynedd ddiwethaf rydw i wedi treulio gormod o amser ar Twitter.
Ychwanegodd ei fod yn "derbyn pentwr o sylwadau cas hyd yn oed ar y negeseuon mwyaf diniwed.”
Ym mis Medi 2023 goroesodd Mr Waters bleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd a gafodd ei alw gan y Ceidwadwyr Cymreig.
Astudiodd Mr Waters, o Rydaman, Sir Gaerfyrddin, wleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ôl gadael Ysgol Dyffryn Aman.
Ymunodd â’r Blaid Lafur, gan gymryd swydd gydag Ysgrifennydd Cymru ar y pryd Ron Davies yn ei helpu i redeg ei ymgyrch i ddod yn arweinydd Llafur Cymru yn 1998 cyn datganoli.
Yna fe ymunodd Mr Waters â'r BBC, a bu'n gweithio fel cynhyrchydd newyddion radio am nifer o flynyddoedd.
Symudodd i ITV Cymru, gan ddod yn brif ohebydd gwleidyddol.
Yn 2007 daeth Mr Waters yn gyfarwyddwr yr elusen feicio Sustrans Cymru, sy'n ymgyrchu ar wella seilwaith cerdded a seiclo.
Gadawodd i arwain melin drafod y Sefydliad Materion Cymreig yn 2013, cyn rhedeg yn llwyddiannus fel ymgeisydd Llafur ar gyfer sedd Llanelli.
Mae Mr Waters yn briod ac mae ganddo ddau o blant, ac mae'n rhannu ei amser rhwng ei gartref ym Mro Morgannwg a'i etholaeth yn Llanelli.