Llai o doiledau cyhoeddus ym Môn dros y gaeaf yn 'siom'

Carys Thomas
Disgrifiad o’r llun,

"Faswn i byth yn gwrthod neb i gael toiled," meddai'r perchennog caffi, Carys Thomas

  • Cyhoeddwyd

Mae yna bryder gan rai nad oes digon o doiledau cyhoeddus ar agor dros fisoedd y gaeaf mewn rhannau o Ynys Môn.

Yn ôl rhai perchnogion busnes a phobl yn ardaloedd dwyreiniol yr ynys, does yr un toiled cyhoeddus ar agor dros fisoedd y gaeaf.

Dywedodd un perchennog busnes ym Menllech ei bod hi'n bwysig cael toiledau cyhoeddus ar agor drwy'r flwyddyn.

Mewn ymateb, dywedodd Cyngor Sir Ynys Môn ei bod hi'n annhebygol y bydd modd ymestyn y tymor ym mhob safle oherwydd pwysau ariannol.

Pa doiledau sydd ar agor?

Yn ôl gwefan Cyngor Sir Ynys Môn, dolen allanol, mae 23 toiled cyhoeddus ar yr ynys - 15 o'r rheiny yn cael eu rhedeg gan y cyngor sir.

O'r 15 yna, dim ond pedwar sydd ar agor drwy'r flwyddyn - Amlwch, Llangefni, Porthaethwy a Chaergybi.

Mae gweddill toiledau'r cyngor sir yn cau ddiwedd Medi bob blwyddyn tan ganol mis Mawrth y flwyddyn ganlynol.

Mae wyth toiled arall ar yr ynys yn cael eu rhedeg gan gynghorau cymuned, gyda phump o'r rheiny ar agor drwy'r flwyddyn, ond mae un o'r rheiny ar gau ar hyn o bryd yn dilyn achos o fandaliaeth.

Toiled cyhoeddus Benllech
Disgrifiad o’r llun,

Y giatiau o flaen toiled cyhoeddus ym Menllech ar gau yn ystod misoedd y gaeaf

Mae nifer yn ardal Benllech yn nwyrain yr ynys yn pryderu nad oes yr un toiled ar agor drwy gydol y flwyddyn yn eu hardal nhw.

Mae nifer o'r farn y dylai hynny newid, gan honni fod ardaloedd dwyreiniol yr ynys yn brysur gydag ymwelwyr a cherddwyr drwy gydol y flwyddyn.

'Byth yn gwrthod neb i gael toiled'

Mae Carys Thomas, perchennog caffi ym Menllech, yn dweud fod rhai yn dod i'w chaffi i ddefnyddio'r toiledau gan nad ydy'r rhai cyhoeddus ar agor.

"'Da ni'n cael lot o bobl yn cerdded yr arfordir, a does dim math o doiled ar hyd ryw hanner awr, dri chwarter o gerdded," meddai.

Er bod rhai yn prynu cynnyrch, dywedodd Ms Thomas fod rhai yn dod i'r caffi i ddefnyddio'r toiledau yn unig.

"'Da ni'n cael lot fawr o hynny, yn enwedig gwyliau Pasg, plant yn dod mewn, dod â thywod efo nhw a gadael golwg, ond mae'n rhaid i'r plentyn bach yna gael toiled.

"Faswn i byth yn gwrthod neb i gael toiled."

Nichola Richards
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nichola Richards o'r farn y dylai toiledau cyhoeddus fod ar agor yn fwy aml

Dywedodd Nichola Richards, oedd yn ymweld â Benllech o Gwm Rhondda, fod cau toiledau cyhoeddus dros fisoedd y gaeaf yn "siom".

"'Dyw e ddim yn broblem mawr i rywun fel fi, ond falle i rywun sydd ag anabledd efallai ei fod yn broblem mawr," meddai.

Richard Rees
Disgrifiad o’r llun,

Gallai cau toiledau cyhoeddus dros y gaeaf atal rhai rhag ymweld â rhai lleoliadau, meddai Richard Rees

Dywedodd Richard Rees fod angen cyfleusterau toiled ar bobl dros y gaeaf hefyd.

"Efallai y basa'n gallu rhoi pobl off dod yma am y diwrnod," meddai.

"Dwi'n dallt fod cynghorau isio neud arbedion ac ati, ond dwi'n teimlo y gallai roi pobl off dod yma a hynny wedyn yn cael effaith ar fusnesau."

Edrych ar opsiynau

Mewn ymateb, dywedodd Cyngor Sir Ynys Môn: "Mae'r cyngor yn ymwybodol iawn o'r galw am agor y toiledau cyhoeddus drwy gydol y flwyddyn ac yn edrych i mewn i opsiynau cyllido.

"Yn anffodus, oherwydd y pwysau ariannol sydd ar yr awdurdod lleol ar hyn o bryd, mae'n annhebygol y bydd modd ymestyn y tymor ym mhob safle ac fe fydd y cyngor yn ymdrechu i geisio cynnal y gwasanaeth ar ei lefel bresennol.

"Ar hyn o bryd rydym yn adolygu data ar y ffigyrau lefelau defnydd a chostau rhedeg toiledau cyhoeddus ar draws yr ynys cyn ystyried os oes modd agor rhai o'r toiledau yn hwyrach yn y flwyddyn a pha opsiynau fyddai'r mwyaf buddiol i ddefnyddwyr."