Trafferthion traffig yn y gorllewin wedi dau wrthdrawiad

A48
Disgrifiad o’r llun,

Yr A48 ar gau wedi'r gwrthdrawiad rhwng car a lori fore Gwener

  • Cyhoeddwyd

Mae adroddiadau o drafferthion traffig yn y gorllewin yn dilyn dau wrthdrawiad ar ffyrdd gwahanol fore Gwener.

Ar yr A48 fe ddigwyddodd gwrthdrawiad rhwng lori a char am 07:40 rhwng Foelgastell a Llanddarog.

Mae un person wedi cael ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i bobl osgoi'r ardal ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Fe ddigwyddodd gwrthdrawiad yr A40 hefyd fore Gwener, ger garej Efail tua 07:25.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y gwrthdrawiad yn cynnwys dau gerbyd ar y ffordd tua'r gorllewin.

Cafodd dau o bobl eu cludo i'r ysbyty, ond dyw eu hanafiadau ddim yn peryglu bywyd.

Fe wnaeth yr A40 ailagor am 10:15.