Glaw trwm i daro'r rhan fwyaf o Gymru dros nos

Cerbydau ar ffordd wlyb / Map rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am lawFfynhonnell y llun, Getty Images/Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd mewn grym i bob sir o Gymru oni bai am Sir Benfro ac Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl cawodydd trwm iawn o law i'r rhan helaeth o Gymru dros nos.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law sy'n dod i rym am 18:00 ddydd Mawrth.

Fe fydd yn para tan 12:00 brynhawn Mercher ac mae'n berthnasol i bob sir o Gymru oni bai am Sir Benfro ac Ynys Môn.

Fe allai'r amodau gwaethaf achosi trafferthion i yrwyr a theithwyr, llifogydd mewn mannau a thoriadau i gyflenwadau trydan.

Hyd at 20mm o law sydd i'w ddisgwyl yn y rhan fwyaf o lefydd wrth i'r glaw ledu o dde-orllewin Lloegr tua'r gogledd gyda'r nos, ond fe allai de Cymru weld hyd at 80mm o law.

Mae stormydd o daranau a mellt hefyd yn bosib ym mannau deheuol y rhybudd tywydd.

Pynciau cysylltiedig