Gwahardd athrawes Bro Myrddin am yfed hanner potel win amser cinio
- Cyhoeddwyd
Mae panel tribiwnlys wedi gwahardd athrawes o'r ystafell ddosbarth ar ôl iddi yfed hanner potel o win yn ystod egwyl ginio, cyn mynd yn ôl i gymryd gwers.
Roedd Rhian Williams yn gyn-bennaeth cemeg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin.
Clywodd gwrandawiad addasrwydd i ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) fod Ms Williams wedi mynd i archfarchnad Morrisons yn ystod yr egwyl ginio ar 9 Mai 2023 er mwyn prynu blodau i gydweithiwr.
Prynodd botel o win gwyn hefyd a phan ddychwelodd at ei char penderfynodd yfed hanner y botel, clywodd y panel.
Ymddangos yn 'rhy hapus'
Clywodd y gwrandawiad ei bod wedi gyrru yn ôl i'r ysgol i ddysgu dosbarth blwyddyn 8 oedd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Fe sylwodd athrawon eraill ar ei hymddygiad a rhoi gwybod i'r pennaeth cynorthwyol.
Pan aeth y pennaeth cynorthwyol Rhian Carruthers i'r ystafell ddosbarth, sylwodd bod ei chydweithiwr yn ymddangos yn "rhy hapus".
Yna, fe wnaeth Ms Williams ei chofleidio pan ofynnwyd iddi gamu y tu allan i'r ystafell ddosbarth.
Ar ôl gadael yr ystafell ddosbarth dywedodd Ms Williams wrth y pennaeth cynorthwyol beth oedd wedi digwydd, cyn i'r ddwy fynd i'w char a chanfod y botel o win hanner gwag.
'Athrawes glyfar a gwybodus'
Rhoddodd Ms Carruthers, sydd wedi bod yn un o benaethiaid cynorthwyol Ysgol Bro Myrddin ers 2017, dystiolaeth yn y gwrandawiad.
Disgrifiodd Ms Williams fel "ffrind da" ac "athrawes glyfar a gwybodus oedd â pherthynas dda gyda'i chydweithwyr."
Dywedodd hefyd ei bod wedi cael trafferth addasu ers y pandemig, ac o ganlyniad ei bod wedi colli hyder a rhoi'r gorau i'w rôl fel pennaeth cemeg.
Arweiniodd hyn hefyd at gymryd dau gyfnod o absenoldeb o'r gwaith, cyn iddi ddychwelyd ddiwedd mis Mawrth 2023 - deufis cyn y digwyddiad dan sylw.
'Cymryd cyfrifoldeb llawn'
Nid oedd Ms Williams yn bresennol yn y gwrandawiad ond mewn datganiad dywedodd ei bod yn edifar yr hyn ddiwyddodd.
Ymddiheurodd am ei hymddygiad a dywedodd ei fod allan o'i chymeriad.
"Mae gen i gywilydd mawr am yr hyn ddigwyddodd ar y diwrnod hwnnw. Dydw i ddim yn falch o'r hyn a wnes i ond rwy'n cymryd cyfrifoldeb llawn," meddai.
Ychwanegodd nad oedd ganddi unrhyw fwriad dychwelyd i addysgu.
Fe wnaeth pwyllgor CGA ganfod bod gweithredoedd Ms Williams gyfystyr ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol gan ei bod yn mynychu'r ysgol a dechrau dysgu dosbarth tra dan ddylanwad alcohol neu wedi yfed alcohol.
Roedd Ms Williams wedi dysgu yn yr ysgol ers mis Medi 1999 a bu'n bennaeth cemeg rhwng 2013 a 2020, ond fe ymddiswyddodd o'r rôl honno wedi'r pandemig.
Cafodd ei gwahardd rhag dysgu am gyfnod amhenodol, gydag isafswm o ddwy flynedd.