Dwy fenyw o Gaerdydd yn creu gofod dawns Cymraeg a chynhwysol

Cadi Beaufort (chwith) a Cati RhysFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cadi a Cati yn annog pawb o bob oed a gallu i fynychu eu sesiynau dawns drwy gyfrwng y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd

Mae dwy fenyw ifanc o Gaerdydd yn darparu gofod cynhwysol ac agored i bobl gadw'n heini drwy ddawns – a hynny yn Gymraeg.

Fe ddaeth y syniad ar ôl i Cati Rhys a Cadi Beaufort fynychu gwersi Turn'd Up Fitness - cymuned sy'n cyfuno dawns, ffitrwydd a drama gan annog awyrgylch llawn egni sy'n grymuso pobl - ac fe gwympon nhw mewn cariad â'r gamp.

Ar ôl mynychu'r dosbarthiadau am dair blynedd, penderfynon nhw drefnu sesiynau eu hunain yn Gymraeg a chadw'r neges o gynnig croeso i bawb – o bob oed a gallu.

Dywedodd Cati ei bod yn cofio'i gwers Turn'd Up gyntaf, ac "honestly o'n i fel, lle dwi 'di bod? Pam bo' fi ddim yn gwbo' am hyn yn gynt?"

'Pa mor anhygoel fysa hynna?'

Sefydlydd Turn'd Up Fitness yw Shekira Johnson, a'i bwriad oedd cyfuno ei hoff bethau - ffitrwydd a cherddoriaeth.

Dywedodd Cati ei bod wedi dechrau dawnsio ar adeg allweddol yn ei bywyd, pan roedd hi'n "teimlo ar goll".

"O'n i wedi gorffen coleg, o'n i ddim yn siŵr, o'n i'n gweithio ac o'n i mewn rut."

Cafodd y ddwy gynnig i ddawnsio yng nghefndir un o fideos Tara Bandito, a dyna wnaeth ysbrydoli Cati i chwilio am wersi dawns.

"Es i ar Instagram a nes i jest teipio mewn 'dance in Cardiff' a 'naeth 'na wers Turn'd Up ddod fyny ar feed fi ac o'n i fel 'o, dwi am drio hwn'."

Ar ôl i'w gwers gyntaf orffen "nes i redeg yn ôl adre' achos o'n i a Cadi yn byw efo'n gilydd, a nes i fynd 'Cadi, wythnos nesa' ti'n dod efo fi!'"

Tair blynedd yn ddiweddarach "'naethon ni droi at ein gilydd a meddwl 'be' os 'da ni yn cychwyn dosbarth a ffurfio gwersi yn y Gymraeg? Pa mor anhygoel fysa hynna?'"

Felly fe sefydlon nhw Turn'd Up by CC.

Grwp dawnsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cadi fod "sicrhau man diogel ar gyfer y sesiynau'n hollbwysig"

Yn ôl Cadi, mae yna alw clir am le i ddawnsio yn Gymraeg, ond mae cynhwysiant wrth wraidd y fenter hefyd.

"Trwy fynd i'r holl wersi Turn'd Up roedden ni'n teimlo fel bo' 'na gap in the market am wersi Cymraeg, a chreu ryw fath o gymuned Gymraeg yng Nghaerdydd."

Esboniodd ei bod yn anodd "ffeindio 'your own thing' yn dy ugeiniau" ond drwy sefydlu'r grŵp yma maen nhw'n gobeithio "annog merched, bechgyn, unrhyw un - ni'n trial 'neud e mor gynhwysol â ni'n gallu - i ffeindio eu grŵp bach nhw".

"'Da ni'n caru dawnsio a dani'n caru cadw yn ffit ond 'di o ddim yn teimlo fel bo' ni'n cadw yn ffit - ma' fatha night out ond heb yr yfed.

"'Da ni jyst yn cael hwyl ac yn dawnsio."

Mae sicrhau man diogel ar gyfer y sesiynau'n hollbwysig, meddai Cadi - gofod ble mae pobl yn ymddiried yn ei gilydd, yn symud ac yn mwynhau, a hyn oll yn Gymraeg.

"Ma'n rili bwysig bo' ni'n cael safe space - cymuned lle ti'n gallu trystio pawb a hefyd gwneud e trwy ein mamiaith ni.

"Ma'n rili pwysig i ni."

'Croeso i bawb'

Does dim ots os nad ydy aelodau'n rhugl yn y Gymraeg, meddai Cadi.

"S'dim iaith i ddawns - boed chi'n dysgu Cymraeg, mae 'na groeso i bawb yma."

Ychwanegodd bod pawb yn gadael "yn wên o glust i glust".

"Os 'da chi'n cael diwrnod rubbish yn gwaith a 'da chi jest isio awr i chi eich hun - stress relief - ma'n gwneud gwyrthiau i ni."

Mae'r ddwy yn pwysleisio bod ystod eang o oedrannau'n mynychu hefyd, "felly s'dim ots be' yw oedran chi, be' yw ability chi - mae e i bawb".

O'r chwith, Cadi Beauford, Shekira Johnson a Cati RhysFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae sylfaenydd Turn'd Up, Shekira Johnson, yn falch iawn o'r ddwy a bod y dosbarthiadau ar gael yn Gymraeg

Mae sylfaenydd Turn'd Up, Shekira Johnson, yn dweud ei bod mor falch o'r ddwy.

"Mae'r hyn mae Cati a Cadi wedi'i greu yn dangos bod dawns yn gallu bod yn bont rhwng ieithoedd a chymunedau - mae'r egni, y gwenu a'r croeso yn siarad drostyn nhw eu hunain.

"Maen nhw wedi cadw gwir egwyddorion Turn'd Up ond wedi rhoi stamp lleol, Cymraeg, arno - ac mae hynny'n ysbrydoliaeth i bawb.

"Dwi mor falch o'r ddwy a bod y Gymraeg yn cael ei gynnwys yn y dosbarthiadau - ma' wedi agor drysau newydd i fi hefyd a dwi bellach yn trio dysgu'r iaith."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig