Dadorchuddio plac ym Mangor i nodi gwrthryfel Owain Glyndŵr

Cerflun Owain Glyndŵr
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw bod Owain Glyndŵr wedi marw rhyw ddegawd ar ôl arwyddo'r Cytundeb Tridarn

  • Cyhoeddwyd

Bydd plac yn cael ei ddadorchuddio ym Mangor ddydd Gwener i nodi cysylltiad Owain Glyndŵr gyda'r ddinas.

Fe wnaeth Owain Glyndŵr arwyddo cytundeb gyda dau fonheddwr o Loegr ym Mangor yn 1405.

Roedd y cytundeb yn nodi sut y byddai Cymru a Lloegr yn cael ei rannu rhyngddynt pe bydden nhw'n llwyddo i drechu'r Brenin Harri IV o Loegr.

Y gred yw y cafodd y "Cytundeb Tridarn" ei arwyddo ar 28 Chwefror 1405 yn nhŷ Archddiacon Bangor, ger cadeirlan y ddinas.

Brynhawn Gwener bydd plac yn cael ei osod yn y man hwnnw, sydd bellach yn ystafell gyfarfod cyngor y ddinas.

Beth oedd y Cytundeb Tridarn?

Cafodd y Cytundeb Tridarn ei wneud rhwng Tywysog Cymru Owain Glyndŵr, Iarll cyntaf Northumberland Henry Percy, ac Edmund Mortimer.

Roedd Glyndŵr wedi bod yn gwrthryfela yn erbyn rheolaeth Lloegr dros Gymru, gan ennill brwydrau a'i goroni'n Dywysog Cymru yn 1404.

Roedd Mortimer yn dweud bod ganddo hawl i goron Lloegr, tra bod Percy yn anhapus gyda'r brenin ar y pryd - Harri IV.

Mae arwyddo'r Cytundeb Tridarn hefyd yn rhan o ddrama William Shakespeare - King Henry IV, Part I.

Cytundeb TridarnFfynhonnell y llun, d-maps.com
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r Cytundeb Tridarn wedi hollti Cymru a Lloegr yn dri, rhwng Owain Glyndŵr, Henry Percy ac Edmund Mortimer

Yn esbonio'r hanes, dywedodd ysgrifennydd Cymdeithas Owain Glyndŵr, Gareth Jones mai nod y cytundeb oedd "hollti Cymru a Lloegr yn dair rhan".

"Byddai Glyndŵr yn rheoli Cymru, ond rhan fawr o Loegr hefyd - mor bell i'r dwyrain â Chaerwrangon, a ble mae Stockport heddiw.

"Byddai Percy yn rheoli siroedd Lloegr o'r canolbarth i fyny, tra byddai Mortimer yn rheoli siroedd de Lloegr.

"Er mwyn i'w cynlluniau lwyddo, byddai'n rhaid iddyn nhw drechu Harri IV mewn brwydr, a rhoddwyd hwb i'r gobeithion hynny wrth i fyddin fawr o Ffranc gyrraedd yn Awst 1405, wedi'u hanfon gan Frenin Ffrainc, Charles VI."

Ond ni chafodd y cytundeb ei wireddu fyth, wrth i fyddin Harri IV wrthsefyll y gwrthryfelwyr am wythnos yn Great Witley ger Caerwrangon, cyn i'r ddwy ochr ildio.

Fe barhaodd gwrthryfel Owain Glyndŵr, ond ni lwyddodd fyth i yrru'r Saeson o Gymru.

Ni chafodd ei weld yn gyhoeddus am gyfnod wedi hynny, a'r gred yw ei fod wedi marw tua 1415.

Neuadd PenrhynFfynhonnell y llun, Geograph/Richard Hoare
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw y cafodd y cytundeb ei arwyddo yn nhŷ Archddiacon Bangor - Neuadd Penrhyn bellach

Roedd Archddiacon Bangor yn offeiriad amlwg yn yr ardal, ac roedd ei lety swyddogol ar safle beth yw Neuadd Penrhyn bellach - ystafell gyfarfod Cyngor Dinas Bangor.

Bydd y plac yn cael ei ddadorchuddio gan y Canon Tracy Jones - un o offeiriaid cadeirlan Bangor heddiw.

'Lle allweddol yn hanes Cymru a Bangor'

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Parry, Maer Bangor y bydd y plac yn "ein hatgoffa o rôl Bangor yn hanes Cymru - a llenyddiaeth Saesneg diolch i waith William Shakespeare.

"Mae gan Owain Glyndŵr le allweddol yn hanes Cymru a dinas Bangor, gan arddangos ysbryd a balchder cenedlaethol.

"Fel y Cymro diwethaf i fod yn Dywysog Cymru, fe arweiniodd Glyndŵr wrthryfel yn erbyn rheolaeth Lloegr, gyda'r nod o adfer annibyniaeth i Gymru.

"Er na lwyddodd ei wrthryfel yn y pendraw, mae ei etifeddiaeth yn parhau fel symbol o hunaniaeth Gymreig, gwytnwch, a'r frwydr i wneud penderfyniadau dros ein hunain."

Pynciau cysylltiedig