Pwy oedd Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru?

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Mae 16 Medi yn Ddydd Owain Glyndŵr, ond pwy oedd o?

Cafodd Owain ap Gruffudd ei eni tua 1354 yn Llys Sycharth ger Llansilin ym Mhowys. Roedd cerdd gan y bardd Iolo Goch yn sôn ei fod yn gastell mawr, gyda naw neuadd, pedair ystafell wely ac eglwys, gyda phyllau pysgod, gwinllan, a chwningod a cheirw ar y tir er mwyn cael y bwyd a diod gorau.

Roedd yn fab i Elen ferch Tomas ap Llywelyn a Gruffudd Fychan oedd yn dod o deuluoedd pwysig. Roedd ganddyn nhw bump o blant. Roedd Gruffudd wedi marw pan oedd y plant yn ifanc.

Cafodd Owain addysg yn y gyfraith yn Llundain, ac roedd yn rhugl mewn pedair iaith: Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg a Lladin.

Tua 1383, priododd Margaret Hanmer a chael llawer o blant.

Ffynhonnell y llun, Comisiwn Brehinol Henebion Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Llys Sycharth

Meddai'r hanesydd Catrin Stevens: "Ers marw Tywysogion olaf Cymru yn 1282-4 roedd y Cymry'n teimlo o dan ormes y Saeson." Felly dechreuodd Owain wrthryfela yn erbyn y Brenin Harri IV.

Ym mis Mehefin 1401 ar Fynydd Hyddgen, roedd Owain wedi ymladd gyda byddin o tua 500, yn erbyn byddin llawer mwy brenin Lloegr. Owain a’i filwyr oedd wedi ennill.

Cafodd Sycharth ei losgi gan y Tywysog Harri yn 1403. Ymosododd dynion Owain ar gestyll Aberystwyth, Harlech a Chaerdydd.

Erbyn 1404, roedd Owain wedi ennill cefnogaeth o bob rhan o Gymru.

Roedd senedd gyntaf Cymru ym Machynlleth, Powys. Cafodd ei goroni yn Dywysog Cymru.

Yn ôl Catrin Stevens, roedd ganddo gynlluniau mawr ar gyfer Cymru annibynnol.

"Nid arweinydd milwrol gwych yn unig oedd Glyndŵr. Ei uchafbwynt fel gwleidydd oedd Llythyr Pennal at Charles VI, brenin Ffrainc, yn galw am sefydlu eglwys annibynnol yng Nghymru; clerigwyr yn siarad Cymraeg a dwy brifysgol."

Ffynhonnell y llun, Comisiwn Brehinol Henebion Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y senedd-dy ym Machynlleth

Roedd yn cyfarfod gyda phobl o Gymru, ond hefyd pobl o’r Alban, Ffrainc a Sbaen.

Yn 1405 roedd Charles VI wedi anfon dros 2,500 o filwyr i Gymru i helpu. Ond roedd y Saeson yn ymladd yn ôl, ac roedd Owain yn dechrau colli rheolaeth.

Yn ôl yr hanesydd, Yr Athro Gruffydd Aled Williams: "Mae blynyddoedd olaf Owain yn un o ddirgelion mawr hanes Cymru. Ar ôl i'r Saeson ailgipio castell Harlech yn 1409 roedd wedi cilio."

Roedd mab Owain, Gruffudd, a’i fam a’i chwiorydd wedi cael eu carcharu yn Nhŵr Llundain tan iddyn nhw farw tua 1412.

Ond cafodd Owain ddim ei ddal gan y Saeson.

Disgrifiad o’r llun,

Cerflun o Owain Glyndŵr yng Nghorwen

Bu farw ar 20 neu 21 Medi 1415, ond does yna neb yn siŵr lle mae wedi ei gladdu.

Efallai y bydd yn dod yn ôl rhyw ddydd...

Geirfa

geni/born

neuadd/hall

gwinllan/vinyard

ceirw/deer

teuluoedd pwysig/important families

addysg/education

cyfraith/law

rhugl/fluent

Lladin/Latin

gormes/oppression

Saeson/the English

gwrthryfela/revolt

yn erbyn/against

ymladd/to fight

byddin/army

llosgi/to burn

ymosod/to attack

cestyll/castles

cefnogaeth/support

senedd/parliament

coroni/to crown

cynlluniau/plans

annibynnol/independent

arweinydd milwrol/military leader

uchafbwynt/highlight

gwleidydd/politician

sefydlu/establish

clerigwyr/clerics

prifysgol/university

senedd-dy/parliament building

cyfarfod/to meet

dirgelion/mysteries

ailgipio/recapture

cilio/to retreat

chwiorydd/sisters

carcharu/jailed

cerflun/statue

claddu/buried