Cymru i chwarae yn Stadiwm Principality eto cyn Euro 2028

Dim ond unwaith mewn 14 mlynedd mae tîm pêl-droed Cymru wedi chwarae' yn Stadiwm Principality
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), Noel Mooney yn dweud y bydd tîm y dynion yn dychwelyd i chwarae rhai gemau yn Stadiwm Principality cyn Euro 2028.
Tydi'r tîm cenedlaethol ddim wedi chwarae yno ers colli 4-1 mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Sbaen yn 2018.
Stadiwm Dinas Caerdydd yw cartref y tîm ers rhai blynyddoedd bellach, ac maen nhw wedi cael cryn dipyn o lwyddiant yn chwarae yno, gan gyrraedd Euro 2016, Euro 2020 a Chwpan y Byd 2022.
Ond gyda Chymru yn un o'r gwledydd fydd yn cynnal gemau yn Euro 2028, mae Mr Mooney yn dweud y bydd yn rhaid iddyn nhw chwarae yn Stadiwm Principality cyn y gystadleuaeth.

Y tro diwethaf i Gymru chwarae'n Stadiwm Principality oedd yn erbyn Sbaen yn 2018
"Er mwyn bod yn llwyddiannus yn Euro 2028 mae angen i ni ddod yn gyfarwydd gyda chwarae yn y stadiwm eto," meddai Mr Mooney.
"Stadiwm Dinas Caerdydd yw ein cartref, a rydym wedi cael lot o lwyddiant yno'n ddiweddar.
"Mi oedd hi'n wych wynebu Canada yn Abertawe'n ddiweddar, a rydym eisiau mynd i Wrecsam yn amlach yn y dyfodol.
"Mi fydd hi'n brofiad gwych i ni chwarae'n y Principality eto. Er mwyn gwneud y mwyaf o Euro 2028 mae angen i ni wneud yn siŵr fod y chwaraewyr yn teimlo'n gyfforddus yn chwarae yno.
"Mae hi'n gwneud synnwyr i ni chwarae cwpl o gemau yno cyn Euro 2028."
Cynghrair Pencampwyr y merched yng Nghaerdydd yn 2029?

Lyon yn dathlu ennill Cynghrair y Pencampwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn 2017
Mae Noel Mooney hefyd yn gobeithio gweld rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr y merched yn cael ei chwarae yn Stadiwm Principality yn 2029.
Mi oedd CBDC wedi ystyried gwneud cais i lwyfannu'r gêm yn 2027, cyn iddyn nhw newid eu meddyliau.
Mae rownd derfynol y gystadleuaeth wedi bod yng Nghaerdydd yn y gorffennol, ond yn 2017 mi gafodd y gêm ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd gyda Lyon yn ennill ar giciau o'r smotyn yn erbyn PSG.
"Yn sgil Euro 2025, a thwf gêm y merched yma yng Nghymru, mi fyse ni wrth ein boddau yn gweld 70,000 yn dod i Gaerdydd i wylio ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn 2029," ychwanegodd Mr Mooney.
"Mae'n rhywbeth yr ydym yn ei ystyried ar y funud. 'Da ni'n gweithio gyda Chyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru i weld y ddyle ni wneud cais i gynnal y gêm yn 2029.
"Dwi'n meddwl fod gennym ni fwy o lais y dyddiau yma fel Cymdeithas Bêl-droed, ac ein bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau.
"Mae FIFA ac UEFA yn gefnogol o'n strategaethau y dyddiau yma, ac yn credu yn yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud."

Mae Noel Mooney wedi bod yn brif weithredwr CBDC ers 2021
Mae gwaith ymchwil diweddar yn awgrymu fod pêl-droed yn parhau i fod y chwaraeon mwyaf poblogaidd yng Nghymru - a bod mwy nag erioed o'r blaen yn chwarae ac yn gwylio'r gamp o'i gymharu â rygbi.
Mi gafodd y gwaith ymchwil ei wneud gan gwmni Nielsen fel rhan o gynllun datblygu gafodd ei greu gan UEFA
Mae CBDC yn dweud bod plant yn chwarae pêl-droed yn fwy nag unrhyw gamp arall, a bod 'na fwy o ddiddordeb nag erioed o'r blaen yn y timau cenedlaethol.
"Mi oedden ni wedi gobeithio erbyn 2026 y byse 'na 120,000 o bobl yn chwarae pêl-droed yng Nghymru, gyda 20,000 o'r rheini yn ferched.
"Fe'r ydym yn barod wedi cyrraedd y targed yna. Mae'r gêm yn tyfu'n gynt nag yr oeddem wedi ei ragweld. Mi ydan ni'n sicr yn symud i'r cyfeiriad cywir.
"A'i pêl-droed yw chwaraeon cenedlaethol Cymru? Mi adawai i bobl eraill wneud y penderfyniad yna."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.