Cynnydd lladrata siopau elusen am bod 'pobl methu fforddio byw'
- Cyhoeddwyd
Mae rhai siopau elusen yn dweud bod rhaid iddynt gau ystafelloedd newid a gwerthu rhai eitemau ar-lein yn unig, ar ôl cynnydd mewn achosion o ddwyn.
Mae ffigyrau'n dangos fod lladrata yng Nghrymu a Lloegr ar ei lefel uchaf mewn dros 20 mlynedd.
Yng Nghaernarfon, dywedodd rheolwr un siop bod "pobl yn dwyn i survivio" wrth i gostau byw gynyddu.
Dywedodd un sydd wedi ei garcharu am ladrata yn y gorffennol nad yw'r dedfrydau presennol yn ddigon i atal pobl rhag dwyn.
'Pobl yn meddwl mae'n iawn dwyn gan elusen'
Dywedodd Jenny Langley, sy'n gorchwylio dros 50 o siopau elusen ar gyfer Gofal Canser Tenovus: "Pob dydd mae'r staff yn dod o hyd i hangers dillad gwag, ble mae rhywbeth wedi ei gymryd.
"Y peth mwyaf trist yw'r ffaith fod pobl yn meddwl ei fod yn iawn i ddwyn gan elusen, mae o'n teimlo'n wrong."
Mae'r elusen yn amcangyfrif eu bod nhw'n colli gwerth £87,000 bob blwyddyn oherwydd lladrata, ac yn dweud fod llawer o'r eitemau gwerth uchel sy'n cael eu rhoi gan y cyhoedd yn gorfod cael eu gwerthu ar-lein.
Roedd cynnydd o 36% mewn achosion o ladrata wedi eu cofnodi gan heddluoedd Cymru, o'i gymharu â chynnydd o 32% yn Lloegr.
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2023
Dywedodd un gadwyn o archfarchnadoedd yn ne Cymru bod dim dewis ond gosod system newydd sy'n defnyddio AI a meddalwedd adnabod wyneb ar ôl cael eu targedu sawl gwaith y dydd gan grwpiau sy'n lladrata.
Dywedodd Matthew Hunt, cyfarwyddwr archfarchnadoedd Filco: "Mae e wedi cyrraedd pwynt lle dydyn ni methu parhau fel ydyn ni."
Ychwanegodd fod y grwpiau lladrata wedi cyrraedd y brig rhwng Awst a Hydref 2023, gyda rhai unigolion yn gallu cymryd nwyddau gwerth miloedd pob dydd.
"Gall wneud i fusnes sy'n gwneud elw gwestiynu os allan nhw barhau."
Mae'r system newydd yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i adnabod pan mae rhywun yn dwyn, tra bod meddalwedd adnabod wyneb yn rhoi gwybod i staff pan mae unigolyn sydd wedi dwyn o'r blaen yn dod i'r siop.
Cafodd Cullan Mais o Gaerdydd ei garcharu 10 gwaith am ladrata, pan oedd yn dwyn er mwyn gwerthu'r nwyddau ymlaen a phrynu cyffuriau.
Nid yw'n credu bod dedfrydau carchar yn ddigon i atal pobl rhag dwyn.
Mae hefyd yn teimlo bod yr argyfwng costau byw yn golygu bod mwy o bobl yn fodlon prynu eitemau sydd wedi eu dwyn.
"Doedd fy ffrindiau i byth, byth yn prynu gen i oherwydd eu bod nhw ddim eisiau cyfrannu at beth o'n i'n gwneud."
Ond erbyn hyn mae rhai yn teimlo'n wahanol, meddai.
"Dwi wedi cael pobl yn dod ata i a dweud, 'biti bod ti ddim yn dwyn' oherwydd maen nhw'n cael trafferth."
'Cynnydd amlwg' un siop yng Nghaernarfon
Dywedodd Rachel Williams o siop Sense fod cynnydd amlwg wedi bod yn lefelau lladrata o'r siop elusen dros y chwe mis diwethaf.
"'Da ni wedi gweld lot o bobl yn lladrata, pobl sydd methu talu am bethau.
"Mae costau byw yn uchel a dydi pobl methu fforddio... mae hyn wedi bod yn digwydd ers chwe mis."
Ychwanegodd rheolwr y siop, Claire Silverwood: "Rydan ni wedi sylwi cynnydd yn ddiweddar, dros y misoedd diwethaf yn enwedig.
"Dillad sy'n mynd yn bennaf, a chynnyrch babi.
"Yr unig reswm alla'i feddwl am ydy'r broblem costau byw."
Dywedodd Carl Thomas o Siop Min-Y-Nant yng Nghaernarfon: "Dwi'm 'di gweld y broblem wedi gwaethygu ond mae pobl yn dwyn i survivio dydi?
"Hefo prisiau'n codi dydi pobl methu fforddio nacdi? So mae'r desperation yna dydi?
"Mae'n broblem i siopau bach, pan mae pethau'n cael eu dwyn maen nhw angen eu replacio, felly mae prisiau'n codi dydi?"
Dywedodd Selwyn Jones o siop Palas Print: "Allai'm dweud fod ni fan hyn mewn siop lyfrau wedi sylwi, i ddweud y gwir, bod 'na gynnydd.
"Ond ar y llaw arall mae rhywun yn gallu dallt - gyda'r agenda llymder a'r argyfwng costau byw - fod pobl yn ffendio hi'n lawer iawn fwy anodd.
"Ond dwi'm yn meddwl fod fawr o farchnad allan yna i werthu llyfrau.
"Mae rhywun yn ymwybodol o sefyllfaoedd pan fod pobl yn dwyn hanfodion bywyd achos fod eu sefyllfa ariannol mor ddychrynllyd o ran costau byw, yr ateb yw datrys y broblem fel fod pobl hefo digon o arian i allu byw."
'Rheswm tu ôl i'r troseddu'
Mae Heddlu Gwent wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn troseddau lladrata yng Nghymru, gydag achosion yn cynyddu 52% rhwng mis Medi 2023 a'r flwyddyn gynt.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Jason White bod 10% o'r holl droseddau yng Nghasnewydd yn ladrata, gan greu "galw sylweddol ar ein swyddogion".
Mae'r heddlu wedi ehangu cynllun sy'n targedu lladron cyson yno.
Y gobaith yw gweithio gyda gwasanaethau eraill i ddatrys y problemau sy'n denu pobl i ladrata ac yn y pen draw, lleihau aildroseddu.
Dywedodd Prif Arolygydd Amanda Thomas: "Dy' nhw ddim yn troseddu oherwydd eu bod nhw eisiau.
"Mae yna reswm tu ôl i'r troseddu, a rhaid i ni ddod o hyd i beth yw hynny."