Cimla: Cau cartref gofal fel 'colli eich teulu'

Rita Randell yn yr ysbyty
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond unwaith yr wythnos mae Rita Randell yn gallu gweld ei theulu erbyn hyn

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn breswylydd cartref gofal sy'n gorfod cau yn dweud bod gadael wedi bod fel "colli eich teulu".

Daeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot â'r cytundeb i ben gyda Chanolfan Gofal Hollins yng Nghimla, gan roi ond 90 diwrnod o rybudd.

O ganlyniad mae'n rhaid i'r bron i 70 o drigolion symud allan a'r 94 aelod o staff chwilio am swyddi newydd.

Dywedodd y cyngor eu bod nhw wedi dod â'r cytundeb i ben am nad oedd safonau penodol wedi'u cyrraedd.

Ond mae perchennog Canolfan Ofal Hollins, Ben Jenkins, yn anghytuno â'r rhesymau.

'Rydym i gyd wedi digalonni'

Mae Rita Riddell, 75, yn un o'r 70 o bobl a oedd yn byw yng Nghanolfan Gofal Hollins.

Bu'n byw yn y cartref gofal gyda'i gŵr, Brian, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond cafodd ei symud allan o'r cartref yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd mai dim ond unwaith yr wythnos y mae'n gallu gweld ei theulu, yn hytrach na dwywaith yr wythnos, oherwydd fod ei chartref newydd yn bellach i deithio iddi.

"Dyw hi ddim yn sefyllfa dda o gwbl. Rydym i gyd wedi digalonni, pob un ohonom.

"Mae wedi digwydd mor gyflym. Rydym wedi dod i arfer gyda phawb. Mae fel colli eich teulu.

"Rwyf wedi mwynhau'n fawr yma ac wedi derbyn gofal da. Mae'r holl ofalwyr yn wych."

Mae BBC Cymru wedi siarad â nifer o berthnasau am y sefyllfa.

Dywedodd rhai bod problemau gyda'r gofal oedd yn cael ei gynnig yn y cartref, tra bod eraill yn hapus gyda'r gofal.

Dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, sy'n comisiynu lleoliadau yn y cartref, eu bod wedi dod yn ymwybodol yn ddiweddar o bryderon yn ymwneud â darparu gofal.

Dywedodd y cyngor fod y rhain yn cynnwys lefelau staffio annigonol, hylendid gwael a rheoli heintiau, diffyg urddas tuag at breswylwyr a rheoli meddyginiaeth.

Ychwanegodd y cyngor eu bod yn "flin bod rhai trigolion a theuluoedd yn teimlo fel eu bod yn cael eu brysio" a bod "nifer y llefydd sydd ar gael mewn cartrefi gofal eraill yn gyfyngedig".

Mae'r cyngor wedi dweud bod pob teulu wedi cael gwybod am y penderfyniadau dros y ffôn a bod llythyr wedi ei anfon iddynt.

Ond dywedodd Ben Jenkins ei bod hi yn "amhosibl yn ariannol" i gadw'r cartref gofal ar agor heb fuddsoddiad gan y cyngor.

'Does neb eisiau mynd'

Disgrifiodd Helen Davies, a oedd yn uwch ofalwr yn y cartref, yr wythnosau diwethaf fel rhai "torcalonnus" i staff a phreswylwyr.

"Dwi wrth fy modd yma. Des i yma fel gweithiwr asiantaeth i wneud un neu ddwy shifft a gwnes i fyth adael.

"Mae'n anodd iawn. Does neb eisiau mynd."

Mae Ms Davies, ynghyd â 93 o aelodau o staff wedi mynegi pryderon ynghylch dod o hyd i waith newydd, a hynny wrth i'r Nadolig agosáu.

"Dy' ni heb gael y dyddiad cau go iawn, felly os byddaf yn gwneud cais am swydd arall, bydda'i methu dweud 'galla i ddechrau ar 1 Rhagfyr' gan bo' ni ddim yn gwybod pryd mae'r drysau am gau."

Mae'r staff yn cael eu cyflogi yn uniongyrchol gan Gartref gofal Hollins.

Ond mae'r cyngor yn dweud ei fod wedi bod mewn cyswllt â chynrychiolydd undeb llafur y cartref gofal, ac yn cynnig cefnogaeth a chymorth yn ymwneud â chyflogaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Helen Davies yn uwch ofalwr yn y cartref gofal

Dywedodd Mr Jenkins y byddai'n cyfeirio'r cyngor "at ein hadroddiad diwethaf gan Arolygiaeth Gofal Cymru a gafodd ei gynnal deufis yn ôl lle na nad oedd unrhyw bryderon ynglŷn â gofal wedi eu canfod".

Ychwanegodd: "Dydyn ni ddim yn berffaith, rydym ni wedi bod yn brwydro i gael buddsoddiad a gwella'r gwaith adnewyddu yn y cartref.

"Ond nid yw hyn yn effeithio ar y gofal rydym ni a'n staff yn ei gynnig yn y cartref.

"Nid ydym wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth sy'n awgrymu rheswm dros gau'r safle."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ben Jenkins, perchennog Canolfan ofal Hollins, ei fod yn anghytuno gyda rhesymau'r cyngor i gau'r cartref

Dywedodd datganiad ar y cyd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe fod lles trigolion cartref gofal yn hollbwysig.

"Y dewis olaf, pan ddaw'r Cyngor i wybod am bryderon megis methu â chyrraedd safonau, mae'r cyngor yn gorfod cymryd camau i ddiogelu'r rhai sydd wedi eu lleoli yno."

Ychwanegodd llefarydd y cyngor eu bod yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i adleoli trigolion y cartref gofal yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

"Rydym yn deall pryderon y trigolion a'u teuluoedd ar hyn o bryd, ac rydym yn canolbwyntio i sicrhau bod y preswylwyr yn cael eu trosglwyddo yn esmwyth i gartref gofal newydd, gan weithio'n agos gyda nhw a'u teuluoedd."

Mae GMB, sef yr undeb sy'n cynrychioli staff cartrefi gofal, wedi dweud ei fod wedi cwrdd â'i aelodau ac y bydd yr undeb yn eu cefnogi trwy gydol y broses.