Canfod corff wrth ymateb i gerbydau ar dân ym Mhorthcawl

Digwyddiad Porthcawl
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am 02:50 fore Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n dweud bod corff wedi ei ddarganfod ar ôl i swyddogion ymateb i ddigwyddiad yn ymwneud â cherbydau ar dân ym Mhorthcawl.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am 02:50 fore Iau, yn dilyn adroddiadau bod sawl cerbyd ar dân ar Ffordd Mackworth yn y dref.

Dywedodd Heddlu'r De fod person wedi ei ddarganfod yn farw y tu mewn i un o'r cerbydau ar ôl i'r fflamau gael eu diffodd.

Dyw'r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol, a dyw achos y tân ddim yn glir ar hyn o bryd.

Mae'r ffordd ar gau am y tro tra bod ymholiadau'r gwasanaethau brys yn parhau.

Pynciau cysylltiedig