Pryder pigo pwmpenni: Ffermwyr yn gorfod addasu oherwydd glaw

Plant yn ymweld  â Phwmpenni Pendre Pumpkins, ac yn eistedd ar domenni gwellt gyda phwmpenni o'u hamgylchFfynhonnell y llun, Tom Evans
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r bedwaredd flwyddyn i ffermwyr Pwmpenni Pendre werthu pwmpenni, ond maen nhw'n poeni y gall y tywydd gwlyb arwain at bydredd

  • Cyhoeddwyd

Fis nesaf bydd Tom a Beth Evans o Geredigion yn croesawu miloedd o bobl i'w fferm er mwyn iddyn nhw bigo eu pwmpenni eu hunain.

Eleni fydd y bedwaredd flwyddyn i'r ddau gynnig gwasanaeth pigo pwmpenni ar eu fferm ym Mhendre ger Aberystwyth.

Er gwaethaf y tywydd ansefydlog eleni, mae'r pwmpenni wedi llwyddo i dyfu'n iach, ac yn barod at ddathliadau Calan Gaeaf.

Ond mae Tom yn poeni y gallai'r holl law trwm ym mis Medi, a'r hyn sydd i ddod ym mis Hydref, gael effaith ar eu pwmpenni, os nad eu pydru.

Plannu mwy na'r arfer

Oherwydd yr ansicrwydd tywydd a hinsawdd, mae Tom wedi gorfod addasu drwy blannu mwy o bwmpenni na'r arfer er mwyn sicrhau bod digon ar gael.

"'Da ni'n gwneud hyn bob blwyddyn mewn gwirionedd - fel y llynedd, roedd angen pob un ohonyn nhw arnom ni'n y diwedd am fod tipyn wedi pydru."

Ychwanegodd ei fod wedi plannu bron i 6,000 o bwmpenni bryd hynny, ac wedi colli tua 20% - 1,200 o bwmpenni - o'r rheini i bydredd neu gleisio.

"Diolch byth fe ddaethon ni drwyddi'n iawn. Mae'r tywydd yn ein herio, ond heb ein rhwystro!"

Mae'r fferm yn cynnig gweithgareddau sy'n addas i blant fel celf a chrefft a phaentio wynebau, bob penwythnos hyd at Galan Gaeaf.

Llun o bwmpenni ar y fferm yn Llanfihangel-y-CreuddynFfynhonnell y llun, Tom Evans
Disgrifiad o’r llun,

Bydd fferm Tom a Beth Evans ar agor i'r cyhoedd bob penwythnos o ddydd Sadwrn 11 Hydref hyd at Galan Gaeaf

Er gwaethaf colli rhai o'r pwmpenni, mae Tom a Beth mewn sefyllfa dda eleni, ac wedi cael blwyddyn lwyddiannus yn eu tyfu.

Nododd Tom fod yr Hydref yn gallu bod yn "wlyb iawn yng ngorllewin Cymru", ond dim ond mater o baratoi yw hynny.

"Pob blwyddyn 'da ni'n llwyddo i werthu tua 5,000-5,500 o bwmpenni.

"Mae'r maes parcio yn llenwi ar rai penwythnosau, a 'da ni'n gallu cadw hyd at 150 o geir.

"Mae'n lot o help i'r fferm, ond mae o'n lot o waith hefyd - bydd y mis nesaf nawr o'r weekend hyn tan y bydden ni'n agor yn brysur.

"'Da ni wrth ein boddau. Bydd lot o bobl leol a ffrindiau yn ein helpu gyda'r bwyd, a 'da ni wrth ein boddau'n cael croesawu pawb - o blant hyd at glybiau Merched y Wawr!"

Llun o lysiau a phwmpenni Bonvilston Edge, mewn cratiau pren.Ffynhonnell y llun, Geraint Evans
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Geraint ac Emma Evans dyfu a gwerthu eu cynnyrch o'u fferm yn ystod y pandemig

Mae un fferm ym mhentref Tresimwn ym Mro Morgannwg wedi penderfynu peidio â phlannu pwmpenni eleni.

Mae Geraint ac Emma Evans yn tyfu a gwerthu cynnyrch ers 2021, ac yn angerddol iawn dros werthu cynnyrch sy'n lleol ac yn organig.

Ond penderfynodd y cwpl, sy'n rhedeg fferm Bonvilston Edge, na fydden nhw'n mentro gyda'r plannu eleni.

"Mae'r tywydd wedi bod yn rhy wael," eglurodd Geraint.

Ychwanegodd fod llawer o ffermwyr eraill sy'n tyfu llysiau yn lleol ar gyfer ysgolion wedi colli llawer o'u llysiau eleni oherwydd y tywydd sych am lawer o'r flwyddyn.

"Roedd hi'n rhy sych i blannu. S'dim llawer o bobl wedi bod yn llwyddiannus y flwyddyn hon."

Wedi'r tywydd sych a garw, penderfynodd y cwpl nad oedden nhw eisiau wynebu gorfod ceisio tyfu mwy yn ystod glaw yr hydref.

'Angen i ffermwyr addasu'

Dywedodd cyfarwyddwr corff amgylcheddol WWF Cymru, Gareth Clubb y bydd angen i'r rhan fwyaf o ffermwyr "addasu" er mwyn gwrthsefyll y newidiadau i'n hinsawdd.

"Un o effeithiau newid hinsawdd yw'r cynnydd yn y lleithder yn yr atmosffer," meddai.

"Mae hynny yn ei thro yn golygu mwy o law ar draws y byd, ac yma yng Nghymru rydym yn disgwyl mwy o law, a mwy o law trwm iawn, yn arbennig yn ystod y misoedd gaeafol."

Ychwanegodd fod dulliau i ffermwyr wneud eu ffermydd yn fwy gwydn, drwy "blannu coed" a "chynnal" y darnau gwlyb ar y ffermydd.

Dywedodd fod WWF Cymru wedi comisiynu gwaith y llynedd, awgrymodd fod y tywydd eithafol - sychder a glaw - wedi "achosi colledion stoc a chnydau" o fwy na "£180m" nôl yn 2018.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.