Beirniadu hyrwyddwr cig Cymru am sylwadau newid hinsawdd

GwaerthegFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae grŵp sy'n hyrwyddo cig o Gymru wedi'u cyhuddo o "rannu gwybodaeth anghywir am newid hinsawdd".

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi cael ei feirniadu am ddweud ar Facebook ei fod yn "chwedl" mai "allyriadau methan o wartheg sy'n gyfrifol am gynhesu byd-eang".

Ers hynny mae prif weithredwr HCC, Jose Peralta, wedi amddiffyn y sylwadau, gan ychwanegu bod gweithgaredd dynol yn "gyfrifol am gynhesu byd-eang" ac "o fewn y gweithgaredd dynol hwnnw, mae cynhyrchu gwartheg yn un ohonyn nhw".

Ond dywedodd Rory Francis, cyfarwyddwr elusen Cymdeithas Eryri, fod y bost gwreiddiol yn "siomedig iawn".

"Dylai fod ganddyn nhw genhadaeth i egluro y dylen ni fod yn siarad â'n gilydd yn hytrach na rhannu gwybodaeth anghywir," meddai.

Methan yw'r ail nwy tŷ gwydr mwyaf cyffredin ar ôl CO2 ac mae'n cael ei ryddhau gan anifeiliaid fel gwartheg a defaid pan maen nhw'n pasio gwynt.

"Dwi'n cydnabod eu bod nhw'n gyfrifol amdano i raddau, ond nid dyna'n unig sy'n gyfrifol amdano," meddai Mr Peralta, mewn cyfweliad ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales.

Dywedodd fod ymgyrch HCC, y Ffordd Gymreig, yn ceisio cymryd yr awenau pan mae'n dod i gynhyrchu cig eidion a chig oen cynaliadwy, ond bod allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y diwydiant amaethyddol ond yn un rhan o fater byd-eang, gyda chludiant a chynhyrchu ynni hefyd yn cyfrannu.

Dywedodd Mr Francis fod gan HCC "stori dda i'w hadrodd" am ffermio yng Nghymru ac na ddylai fod yn "seilio eu cyflwyniad ar rywbeth anwir".

Dywedodd hefyd fod y mudiad yn cael ei ariannu gan lywodraeth Cymru oedd â "record falch o ddangos arweiniad ar yr argyfwng hinsawdd".

Dywedodd llywodraeth Cymru fod HCC yn gorff annibynnol a'i bod o fyny iddyn nhw i "benderfynu beth maen nhw'n ei gyhoeddi ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol".

"Fodd bynnag, fe fydden ni, fel unrhyw gorff arall, yn disgwyl iddyn nhw fod yn gywir ac yn seiliedig ar dystiolaeth," meddai.

Pynciau cysylltiedig