Beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Wrecsam

A525Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r dyn 49 oed wedi gwrthdrawiad ar yr A525 ger Bwlchgwyn bore Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Wrecsam.

Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i wrthdrawiad yn ymwneud â beic modur ar yr A525 ger Bwlchgwyn am 10:00 bore Sul.

Bu farw'r beiciwr modur, dyn 49 oed, yn y man a'r lle, meddai'r llu.

Dywedodd Sarjant Duncan Logan o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol: "Rwy'n rhannu fy nghydymdeimlad dwysaf â theulu'r dyn yn yr amser anodd hwn.

"Mae hyn bellach yn cael ei ymchwilio fel gwrthdrawiad angheuol, ac rwy'n apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â ni.

"Ar ben hynny, rwy'n apelio at unrhyw un sydd â lluniau dashcam o grŵp o 10 o feicwyr modur yn teithio rhwng yr A483 yng Nghoedpoeth a'r A525 ym Mwlchgwyn yn arwain at y gwrthdrawiad i gysylltu â'r heddlu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig