Cimychiaid prin wedi eu darganfod yn farw mewn afon
- Cyhoeddwyd
Mae pobl yn cael eu cynghori i gadw draw o Afon Irfon ger Llanfair-ym-Muallt wedi i nifer o gimychiaid prin gael eu darganfod yn farw yn y dŵr.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), mae'n bosib mai pla cimwch yr afon sydd wedi achosi hynny.
Mewn datganiad maen nhw'n dweud bod cimychiaid marw wedi eu darganfod ar hyd tua thair milltir o’r afon ar 28 Mehefin.
Maen nhw'n dweud "nad oedd unrhyw arwyddion amlwg o lygredd, ac roedd creaduriaid eraill yr afon yn ymddangos yn iawn, gan arwain swyddogion i amau pla cimwch yr afon".
Dyw pla cimychiaid yr afon ddim yn effeithio ar bobl, anifeiliaid anwes na bywyd gwyllt arall, medd CNC.
Ond mae’r pla, sydd ond yn lladd cimychiaid yr afon, yn lledaenu’n hawdd rhwng afonydd.
"Os bydd ci yn mynd i mewn i'r afon heintiedig ac yn mynd i afon arall yn ddiweddarach, gallai ledaenu'r clefyd,” esboniodd CNC.
Mae gofyn i'r cyhoedd aros allan o’r dŵr er mwyn diogelu’r rhywogaeth prin.
Pwysleisiodd Jenny Phillips, Arweinydd Tîm Amgylchedd De Powys CNC bwysigrwydd cadwraeth y cimwch afon crafanc wen:
"Mae dalgylch Gwy, gan gynnwys Afon Irfon, yn gynefin allweddol i'r cimwch afon crafanc wen.
"Mae'r rhywogaeth hon mewn perygl, gyda'r niferoedd yn gostwng 50-80% yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd cimychiaid afon estron a phla cimwch yr afon.
"Mae'r cimwch afon crafanc wen brodorol yn un o'r rhesymau pam y mae Afon Gwy wedi'i dynodi'n Ardal Cadwraeth Arbennig felly mae'n hanfodol ein bod yn cyfyngu ar ledaeniad y pla i amddiffyn poblogaethau lleol eraill."
Mae samplau wedi'u casglu a’u hanfon i'w profi, ac mae CNC yn disgwyl canlyniadau'r wythnos nesaf.