Rhybudd am wyntoedd cryfion wrth i Storm Amy daro'r gogledd

- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Storm Amy daro rhannau o ogledd Cymru nos Wener a dydd Sadwrn, gyda rhybuddion y gallai achosi difrod.
Mae rhybudd melyn mewn grym rhwng 18:00 nos Wener a 23:59 nos Sadwrn ar gyfer siroedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae disgwyl gwyntoedd hyd at 60mya yn eang ar draws y rhanbarth, ond fe all gyrraedd hyd at 80mya mewn mannau arfordirol.
Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r storm ddifrodi adeiladau, effeithio ar drafnidiaeth a chyflenwadau pŵer, a hyd yn oed peryglu bywyd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.