'Diwedd cyfnod' i ffair lan y môr ar ôl dros 100 mlynedd

Bydd y glannau'n cael eu hailddatblygu gyda hyd at 1,100 o gartrefi, siopau a bwytai newydd
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion ffair ar lan y môr, sy'n dyddio'n ôl dros 100 mlynedd, wedi cyhoeddi y bydd hi'n cau am y tro olaf yn ddiweddarach eleni.
Agorodd Parc Pleser Traeth Coney ym Mhorthcawl yn 1918 ac mi fydd yn cau fis Hydref.
"Byddwn yn ei golli'n fawr," medd y perchnogion.
"Mae'n ddiwedd cyfnod, ers dros 100 mlynedd rydym ni ac eraill - a'u teuluoedd, wedi byw a gweithio ym Mhorthcawl gan helpu i'w wneud yn lleoliad prysur wrth y môr," ychwanegodd y teulu Evans.

Agorodd Parc Pleser Traeth Coney ym Mhorthcawl yn 1918
Un sy'n cofio treulio amser yn y ffair yn blentyn ar dripiau Ysgol Sul ydy'r Parchedig Eirian Wyn o Frynaman.
Dywedodd ar Dros Frecwast ei fod yn cofio mynd yno yn y 60au cynnar a bod "hwyl a sbri" i'w cael ar y tripiau.
"Dwi'n drist oherwydd mae atgofion plentyn - cofio mynd ar y bymper cars a sleid oedd yn mynd rownd adeilad siâp côn.
Ychwanegodd fod reidiau brawychus yno hefyd.
"Y ghost train wedyn - pam fod fy rheini i'n gadael i ni er mwyn hala ofn arno' ni? Dwi ddim yn gwybod! Ond roedd hwyl a sbri i'w gael yno."

"Diolch am rannu ein cariad tuag at y ffair," medd perchnogion y ffair
Daw'r penderfyniad yn dilyn ymgynghoriad allanol ar gynlluniau, gan gyngor Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror, i ailddatblygu'r glannau gyda hyd at 1,100 o gartrefi, siopau a bwytai newydd, ac ymestyn llwybrau pren a mannau gwyrdd.
Dywedodd Jason Green, perchennog siop sglodion gerllaw, y bydd cau'r ffair yn cael effaith sylweddol ar nifer o fusnesau bach.
"Mae am gael effaith fawr, mae'n ddiwedd cyfnod."
"Mae busnesau bach yn dibynnu'n fawr ar y nosweithiau hanner pris a'r nosweithiau tân gwyllt y mae'r ffair yn eu cynnal," meddai Mr Green.
Ychwanegodd Mr Green fod y ffair yn "dod â llawer o gwsmeriaid i'r busnesau lleol".
Dywedodd y perchnogion, er eu bod nhw'n drist am y newyddion eu bod "yn ddiolchgar am byth ein bod wedi cael y cyfle i fod yn rhan o fywydau cynifer o genedlaethau o deuluoedd, hen ac ifanc".
"Diolch am rannu ein cariad tuag at y ffair."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.